Fan Brycheiniog
| Fan Brycheiniog (Bannau Brycheiniog) |
|
|---|---|
| Cyfieithiad | |
| Iaith | Cymraeg |
| Testun y llun | Fan Brycheiniog o Lyn y Fan Fawr |
| Uchder (m) | 802 |
| Uchder (tr) | 2631 |
| Amlygrwydd (m) | 874 |
| Lleoliad | Mynydd Du (Sir Gaerfyrddin) |
| Map topograffig | Landranger 160; Explorer 12W |
| Cyfesurynnau OS | SN825217 |
| Gwlad | Cymru |
| Dosbarthiad | Marilyn (mynydd), Hewitt a Nuttall |
Mynydd uchaf cadwyn y Mynydd Du yn ne-orllewin Powys, bron ar y ffin â Sir Gaerfyrddin, yw Fan Brycheiniog; cyfeiriad grid SN825217. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 379metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf. Er ei fod yn cael ei dderbyn yn gyffredinol fel rhan o'r Mynydd Du, cyfeirir ato weithiau fel un o Fannau Sir Gâr yn ogystal.
Mae llwybr i'r copa sy'n cychwyn o bentref Llanddeusant. I'r gogledd-orllewin o'r prif gopa mae copa is Fan Foel (781 m.), y copa uchaf yn Sir Gaerfyrddin.
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd), Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 802 metr (2631 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.
Gweler hefyd [golygu]
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr mynyddoedd Cymru
- Rhestr o Gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'