Fada N'gourma
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn nwyrain Burkina Faso yw Fada N'gourma (hefyd: Fada-Ngourma). Fe'i lleolir 219 km (136 milltir) i'r dwyrain o'r brifddinas Ouagadougou, yn ardal Gourmantché.
Sefydlwyd y ddinas gan y rheolwr lleol Diaba Lompo fel 'Bingo'. Mae'n adnabyddus am ei ffatrioedd blancedi a rygiau ac am y mêl lleol.