Byddin Rhyddid Cymru

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth FWA)
Neidio i: llywio, chwilio
Eryr Wen

Corff paramilitaraidd cenedlaethol Cymreig oedd Byddin Rhyddid Cymru (Saesneg: Free Wales Army neu FWA).

Sefydlwyd y fyddin yn Llanbedr Pont Steffan yn 1963 gan William Julian Cayo-Evans, gyda'r bwriad o gymeryd lle Mudiad Amddiffyn Cymru. Ei nod oedd gweriniaeth Gymreig annibynnol. Daeth logo'r fyddin, a adwaenid fel yr Eryr Wen, yn olygfa gyffredin trwy Gymru, wedi ei baeintio ar waliau a phontydd, yn enwedig yn y cyfnod wedi boddi pentref Capel Celyn a chyn Arwisgiad Tywysog Cymru yn 1969.

Bu'r fyddin yn hyfforddi yng nghefn gwlad Cymru, a'i harweinwyr yn rhoi cyfweliadau i newyddiadurwyr. Ymddengys iddynt fod yn gyfrifol am nifer o ffrwydradau. Yn 1969, rhoddwyd chwech o arweinyddion y fyddin, yn cynnwys Julian Cayo Evans, ar brawf gan yr awdurdodau Prydeinig, ac wedi'r achos llys hiraf oedd wedi ei gynnal yng Nghymru hyd hynny, fe'u dedfrydwyd i dymhorau hir o garchar.

Llyfryddiaeth [golygu]