Félix Vallotton
| Félix Vallotton | |
|---|---|
Hunanbortread (1897) |
|
| Ganwyd | 28 Rhagfyr 1865 Lausanne, Y Swistir |
| Bu farw | 29 Rhagfyr 1925 Paris, Ffrainc |
| Yn enwog am | portreadau o gyfoeswyr enwog |
| Galwedigaeth | Paentiwr ac engrafiwr |
Arlunydd Swisaidd oedd Félix Vallotton (28 Rhagfyr 1865 - 29 Rhagfyr 1925), sy'n adnabyddus am ei engrafiadau ar bren o gyfoeswyr enwog ac am ei baentiadau.
Ganed Vallotton yn Lausanne yn ardal Ffrangeg y Swistir. Yn 17 oed, aeth i Académie Julian ym Mharis, man a fu'n bologaidd gan sawl un o'r ôl-argraffiadwyr Ffrengig. Mewn llai na deg mlynedd, llwyddodd yr arlunydd ifanc i wneud enw iddo'i hun yn y byd avant-garde ym Mharis. Daeth yn adnabyddus yn rhyngwladol oherwydd ei engrafiadau ar bren a'i darluniau du a gwyn.
O 1899 ymlaen canolbwyntiodd ar baentio. Cafodd sawl arddangosfa ym Mharis, gweddill Ffrainc, ei Swistir enedigol a sawl gwlad arall.
Ceisiai bynciau newydd yn ddibaid ac arbrofai â dulliau mynegiant newydd. Cafodd y Rhyfel Byd Cyntaf effaith cryf arno. Troes o baentio gyda dulliau traddodiadol i arloesi dulliau haniaethol. Cymerodd ei yrfa dro newydd ond bu farw yn 1925.