Ewyas Harold
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan yn Swydd Henffordd, Lloegr, yw Ewyas Harold. Gorwedd tua 10 milltir i'r de-orllewin o dref Henffordd, tua milltir yn unig o'r ffin â Chymru.
Mae'r Ewyas yn yr enw yn cyfeirio at hen gwmwd ac arglwyddiaeth Cymreig Ewias, a fu'n rhan o deyrnas Gwent yn yr Oesoedd Canol. Codwyd Castell Ewyas Harold yma gan arglwydd Normanaidd lleol ar ôl i'r Normaniaid gipio Ewias ar ddiwedd yr 11eg ganrif. Tua 3 milltir i'r gogledd ceir adfeilion Abaty Dore.
Trefi a phentrefi Swydd Henffordd
Trefi
Llanllieni · Rhosan ar Wy
Pentrefi
Clifford · Clodock · Dilwyn · Ewyas Harold · Kentchurch · Longtown · Lower Hergest · Llanddewi Cil Peddeg · Llanveynoe · Symonds Yat · Upper Hergest · Weston under Penyard