Evelyn Wood

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Syr Evelyn Wood

Swyddog yn y Fyddin Brydeinig oedd y Maeslywydd Syr Henry Evelyn Wood VC, GCB, GCMG (9 Chwefror 18382 Rhagfyr 1919).

Ymunodd â'r Llynges Frenhinol yn ei arddegau a gwasanaethodd yn Rhyfel y Crimea. Trosglwyddodd i'r marchfilwyr yn y Fyddin ac enillodd Groes Fictoria yn India. Roedd yn aelod o Gylch Ashanti, criw o hoff swyddogion Garnet Wolseley, a chafodd ei ddyrchafu trwy'r rhengoedd. Cymerodd ran yn Rhyfel y Zulu a Rhyfel Cyntaf y Boer yn Neheudir Affrica. Penodwyd yn Sirdar y Fyddin Eiffaidd yn y 1880au yn ystod Rhyfel y Mahdïwyr. Dychwelodd Wood i Brydain ym 1886 a gwasanaethodd fel Prif Swyddog Cyflenwi'r Swyddfa Rhyfel ac hefyd Dirprwy Gadfridog. Cafodd ei benodi'n Faeslywydd ym 1903.

Roedd Wood yn gyfaill i'r Frenhines Victoria ac ystyriwyd yn symbol o rym milwrol yr Ymerodraeth Brydeinig. Cafodd ei chwaer, Katharine O'Shea, berthynas â'r cenedlaetholwr Gwyddelig Charles Stewart Parnell.

Darllen pellach[golygu]

  • Manning, Stephen. Evelyn Wood VC: Pillar of Empire (Barnsley, Pen & Sword, 2007).

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Soldier svg.svg Eginyn erthygl sydd uchod am berson milwrol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Baner Y Deyrnas UnedigEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Brydeiniwr neu Brydeinwraig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.