E. Gwyndaf Evans

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Evan Gwyndaf Evans)
E. Gwyndaf Evans
FfugenwGwyndaf Edit this on Wikidata
Ganwyd7 Mawrth 1913 Edit this on Wikidata
Bu farw10 Mawrth 1986 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Gweinidog a bardd Cymraeg oedd Evan Gwyndaf Evans neu "Gwyndaf" (7 Mawrth 1913 - 10 Mawrth 1986).[1] Bu'n weinidog yng Nghapel Tabernacl, Llanelli.

Bu'n athro ysgrythyr yn Ysgol Brynrefail, Llanrug o 1957 hyd 1978.[1]

Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1935 gyda'r gerdd Magdalen,[2] y tro cyntaf i gerdd gynganeddol vers libre ennill y gystadleuaeth. Bu'n Archdderwydd rhwng 1966 a 1969.

Yn frodor o bentref Llanfachreth, Gwynedd, daeth i sylw Cymru fel bardd pan enillodd yr Eisteddfod Ryng-golegol yn 1934. Yn 1935 enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol am ei awdl 'Magdalen'. Bu'n Archdderwydd yr Eisteddfod Genedlaethol o 1966 hyd 1968.[3]

Arbrofai ar ysgrifennu vers libre mewn cynghanedd ac roedd yn ganwr penillion adnabyddus hefyd. Dim ond un gyfrol o gerddi a gyhoeddodd, sef Magdalen a cherddi eraill, ond cyfrannai'n gyson i gylchgronau Cymraeg ar hyd ei oes.[3]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Magdalen a cherddi eraill (Gwasg Gomer, 1962)
  • Cerddi Gwyndaf: y casgliad cyflawn (Dinbych: Gwasg Gee, 1987)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Y Parch E Gwyndaf Evans BA Eco'r Wyddfa Ebrill 1986 Tud:3
  2. Gwefan yr Eisteddfod Enillwyr y Gadair Archifwyd 2019-01-09 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 21 Tachwedd 2017
  3. 3.0 3.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru
Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.