Eugrad

Oddi ar Wicipedia
Eugrad
Eglwys Llaneugrad, Ynys Môn
Ganwyd6 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Blodeuodd6 g Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl6 Ionawr Edit this on Wikidata
TadGildas Edit this on Wikidata

Sant Cymreig oedd Eugrad (Llydaweg: Ergat neu Egrat) (bl. 6g). Fe'i cysylltir ag Ynys Môn a hefyd a Llydaw, efallai.[1] Dethlir ei ddydd gŵyl ar 6 Ionawr.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Roedd Eugrad yn frawd i Sant Gallgo, sefydlydd Llanallgo ym Môn, ac yn un o feibion Gildas fab Caw yn ôl yr achau traddodiadol a elwir yn Bonedd y Saint. Dywedir iddo gael ei ddysgu gan Sant Illtud yn ei glas enwog yn Llanilltud Fawr ym Morgannwg.[1]

Cysegrwyd eglwys plwyf Llaneugrad yng ngogledd-ddwyrain Ynys Môn i Eugrad. Mae'r eglwys bresennol yn dyddio o'r 12g.

Ceir sant o'r enw Ergat/Egrat yn Llydaw sydd efallai i'w uniaethu ag Eugrad. Roedd cysylltiad amlwg rhwng Cymru a Llydaw yn y 6g. Cedwir penglog y sant yn Treouergat yn nhalaith Leon; ceir ffynnon Ergat yno hefyd.[1]

Culhwch ac Olwen[golygu | golygu cod]

Ceir cyfeiriad at 'Ergyriad (Ergyryat) fab Caw' fel un o farchogion Arthur yn y chwedl ganoloesol Culhwch ac Olwen a thybir mai ffurf ar 'Eugrad' ydyw.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 , T.D. Breverton The Book of Welsh Saints (Glyndwr Publishing, 2000).
  2. Rachel Bromwich a D. Simon Evans (gol.), Culhwch ac Olwen (Gwasg Prifysgol Cymru, 1988).