Eubule Thelwall (g. 1622)

Oddi ar Wicipedia
Eubule Thelwall
Ganwyd1622 Edit this on Wikidata
Bu farw1695 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyfreithiwr Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaNantclwyd y Dre Edit this on Wikidata
Nantclwyd y Dre: y rhan flaen a godwyd gan Eubule.
Cofeb i Eubule yn Eglwys Sant Elidan, Llanelidan
Gofal: ceir Syr Eubule Thelwall hen ewyrth i'r Eubule Thelwall yma.

Cyfreithiwr a thirfeddianwr o ardal Rhuthun oedd Eubule Thelwall (16221695) o Blas Nantclwyd, Dyffryn Clwyd, Gogledd Cymru. Ef hefyd oedd yn gyfrifol am ehangu Nantclwyd y Dre lle bu'n byw o tua 1688. Roedd yn drydydd mab i John Thelwall o Barc bathafarn a cheir cofeb iddo yn Eglwys Llanelidan a godwyd gan ei wraig Mary, sy'n rhestru pob un o'i 11 plentyn.

Ym 1646 bu Eubule Thelwall yn allweddol yng nghyrch y Seneddwyr yn erbyn Brenhinwyr Castell Dinbych; credir mai ef, ar ran Siarl I, brenin Lloegr a'r Alban a gymhellodd y Brenhinwyr, y tu fewn i'r castell, i ildio.[1]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Fe'i derbyniwyd yn Gray's Inn ym 1635. Priododd Mary Parry ym 1653 - hi oedd etifedd Ystâd Nantclwyd pan fu farw'i thad (William Parry) ychydig wedyn. Tan hynny ymddengys i Eubule weithio fel cyfreithiwr yn Llundain. Ym 1659 disgrifir ef yn byw yn Gray's Inn ond erbyn 1662 roedd yn byw yn Nantclwyd, Llanelidan. O fewn blwyddyn neu ddwy roedd yn prynnu ychwaneg o dir er mwyn ehangu'r ystâd yn Nantclwyd.[2] Derbyniodd nifer o swyddi cyfreithiol yn Nyffryn Clwyd gan gynnwys arglwyddiaeth Rhuthun tan 1677. Yn 1670 ef oedd Prif Stiward tiroedd Esgob Llanelwy drwy Sir y Fflint a Sir Ddinbych. Rhwng 1670 ac 1688 ef oedd Is-siambrlen Palatinate Caer pan ymddeolodd gan iddo fynd yn fyddar.

Bywyd[golygu | golygu cod]

Ceir gohebiaeth rhyngddo â Syr Walter Bagot sy'n nodi enwau coed ifanc a addawyd gan Walter i Eubule o'i feithrinfa yn Llundain gan gynnwyd coeden gneuen Ffrengig, math Virginia.

Plas Nantclwyd, Llanelidan.

Ef a gododd y rhan hynaf o Blas Nantclwyd, fel y'i ceir heddiw. Cododd dŷ iddo'i hun yng Nghorwen a gadawodd £1,500 yr un i'w ddwy ferch. Ychwanegodd yn helaeth at Nantclwyd y Dre, Rhuthun ac ef sy'n gyfrifol am y rhan flaen - gan gynnwys y ports ar golofnau derw. Ym 1691 fe brynnodd 'Ardd yr Arglwydd' yng nghefn y tŷ, sy'n brawf o'i ddiddordeb mewn garddio.

Y diwedd[golygu | golygu cod]

Ar ei farwolaeth ym 1695 aeth Nantclwyd y Dre i'w ferch (ddi-blant) Dorothy ac yna i'w fab o'r un enw ag ef a etifeddodd Blas Nantclwyd. Pan fu farw Eubule ieuengaf ym 1713 daeth y llinach wrywaidd i ben a'i ferch Martha a etifeddodd yr ystâd.

Y teulu Thelwall[golygu | golygu cod]

Ar y cyfan, teulu o gyfreithwyr parchus oedd y Thelwalliaid. Cysylltir y teulu gyda: Plas y Ward, Bathafarn a Phlas Coch, Sir Ddinbych. Daeth John Thelwall i ardal Rhuthun o ardal Thelwall yn Sir Gaer, tua'r flwyddyn 1380 a hynny gyda Reginald de Grey. Priododd ei fab John Ffelis, merch ac etifeddes Walter Cooke neu Ward, o Blas y Ward, a dyna gysylltu'r ffermdy hwnnw gyda'r teulu. Gor-ŵyr i John a Ffelis oedd Richard Thelwall a fu farw yn Eisteddfod Caerwys ym 1568. Etifedd Richard Thelwall oedd Simon Thelwall (1526 - 1586), a wnaed yn fargyfreithiwr ar 8 Chwefror 1568, ac yn aelod seneddol dros Sir Ddinbych. Yn ddirprwy-farnwr Caer yn 1584 dyfarnodd ef Rhisiart Gwyn y merthyr Catholig o Lanidloes i'w farwolaeth.[3]

Mab hynaf Simwnt Thelwall o'i briodas gyntaf oedd Edward Thelwall (m. 1610) a briododd (yn drydedd wraig iddo) Catrin o Ferain a phriododd Simon, ei fab o'r ail briodas Gaenor, merch Elis Prys (Y Doctor Coch) o Blas Iolyn, ac o'r briodas hon y disgynnodd Thelwaliaid Rhuthun.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. W. M. Mydleton: Chirk Castle Accounts 1666-1753 (Manceinion, 1931), tud 28, n 139
  2. Gweler dogfennau CLlC, Cross of Shaw Hill 218, 242, 676, passim.
  3. Y Bywgraffiadur Ar-lein; adalwyd 4 Mehefin 2014.