Esgyrndy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Esgyrndy yn Hallstatt, Awstria

Cist, adeilad, ffynon neu safle arall sydd wedi ei greu i fod yn le gorffwys gweddillion ysgerbydol dynol yw ergyrndy. Defnyddir hwy yn aml pan mae lle yn brin. Caiff corff ei gladdu mewn bedd dros dro ac ar ôl ychydig o flynyddoedd caiff yr esgyrn eu ymud a'u gosod mewn esgyrndy. Mae'r esgyrn yn cymryd cymaint llai o le feln ei fod yn bosib storio gweddillion nifer o bobl mewn un teml.

Cynnwys

Persia [golygu]

Ym Mhersia, defnyddiodd y Zoroastriaid ffynnonau dwfn fel esgyrndai ers y dyddiadu cynnar, tua 1000 CC. Gelwyd rhain yn astudan ("lle ar gyfer yr esgyrn" yn lythrennol). Mae llawer o ddefodau a rheolau yn y gred Zoroastrian yghlyn â'r astudans. Yr enw a roddwyd ar esgyrndy gan y Sogdiaid yngh ghanol Asia cyn y seithfed ganrif oedd tanbar.[1]

Catholig [golygu]

Canhwyllyr wedi ei greu allan o esgyrn a phenglogau yn Esgyrndy Sedlec, Gweriniaeth Tsiec.

Mae nifer o esiamplau o esgyrndai yn Ewrop, megis y Santa Maria della Concezione dei Cappuccini yn Rhufain, yr Eidal, San Bernardino alle Ossa yn Milan, yr Eidal, Sedlec Ossuary yn y Gweriniaeth Tsiec, a Capela dos Ossos (Capel yr esgyrn) yn ninas Évora, Portiwgal. Mae gan bentref Wamba yn nhalaith Valladolid, Sbaen esgyrndy trawiadol yn cynnwys dros mil o benglogau yn yr eglwys leol, yn dyddio o rhwng y 12fed a'r 18fed ganrif. Mae'r Ossuaire de Douaumont yn Ffrainc yn esiampl mwy diweddar, sy'n cynnwys gweddillion 130,000 o filwyr di-enw a fu farw ym Mrwydr Verdun yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae'r claddgell odan Mynachlog San Francisco yn Lima, Peru hefyd yn cynnwys esgyrdy.

Iddewaeth [golygu]

Yn ystod adeg yr Ail Deml, roedd arferion claddu Iddeweg yn cynnwys claddu mewn ogofau claddu i gychwyn, gyda ail-gladdiad mewn esgyrndai yng nghilfachau bychan yn yr ogofau. Mae rhai o'r esgyrndai carreg galch sydd wedi eu canfod oamgylch adal Jeriwsalem yn cynnwys patrymau geometrig manwl ac arysgrifau yn dynodi enwau'r marw. Ymysg yr esgyrndai mwyaf enwog mae esgyrndy gyda'r arysgrif 'Simon yr adeiladwr Templau' mewn casgliad yn Amgueddfa Israel. Mae un arall â'r arysgrif 'Elisheba gwraig Tarfon', un gyda'r arysgrif 'Yehohanan ben Hagkol' a oedd yn cynnwys hoelen haearn yn asgwrn y sawdl sy'n cynnig ei fod wedi cal ei groeshoeli, ac un arall yn dweud 'James mab Joseph, brawd Iesu', ond mae amheuaeth ynglyn a dilyswydd hwn. Mae deg esgyrndy a ganfyddwyd yn Nheml Talpiot yn 1980, yn cynnwys sawl enw o'r Testament Newydd.

Yn ystod cyfnod yr Ail Deml, roedd y doethwyr Iddewig yn trafod os oedd y digwyddiad o gasglu esgyrn rhiant ar gyfer eu ail-claddu yn un o dristwch neu'n ddathliad; penderfynwyd y dylai fod yn ddiwnod o ymbrydio yn y bore, ac o wledda yn y prynhawn. Ni barhaodd yr arferiad o ail-gladdu ymysg yr Iddewon wedi cyfnod yr Ail Deml, ac nid oedd yn bodoli erioed tu allan i diroedd Israel.

Gweler hefyd [golygu]

Esgyrndy ar faes brwydr Gallipoli y Rhyfel Byd Cyntaf, sy'n cynnwys gweddillion 3000 o filwyr di-enw.

Ffynonellau [golygu]

Dolenni allanol [golygu]