Esgoblyfr Bangor

Oddi ar Wicipedia
Esgoblyfr Bangor
Enghraifft o'r canlynolllawysgrif goliwiedig Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi13 g Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata

Llawysgrif ganoloesol sy'n cynnwys testunau gwasanaeth Lladin ar gyfer yr esgob yw Esgoblyfr Bangor. Fe'i gelwir yn 'esgoblyfr' (Lladin: pontifical) am ei fod yn cynnwys y gwasanaethau eglwysig fedrai neb ond esgob eu gweinyddu, fel bedydd esgob, ordinhau offeiriaid, cysegru eglwys ac amryw bendithion arbennig. Mae'r llawysgrif yn dyddio o ddiwedd y 13g neu flynyddoedd cynnar y ganrif nesaf. Fe'i cedwir yn y gadeirlan ym Mangor.

Cyfeirir ato weithiau fel Esgoblyfr Anian, ar ôl enw'r esgob, ond mae'n ansicr pa esgob a olygir. Cafwyd dau esgob ym Mangor o'r enw Anian yn y cyfnod hwnnw. Y cyntaf oedd Anian I (neu Einion I: esgob Bangor 12671305) a'r ail oedd Anian Sais neu Anian II (neu Einion II: esgob Bangor 1309 - 1328). (Roedd 'na ddau esgob Anian yn Llanelwy tua'r un cyfnod hefyd). Ar ddechrau'r llawysgrif ceir y geiriau Lladin, 'Iste liber est pontificalis domini aniani bangor epicopi'. Y farn gyffredinol heddiw yw mai Anian Sais yw'r Anian hwnnw ('Sais' am ei fod yn medru Saesneg, cymharer enw Elidir Sais) a bod y llyfr wedi'i gomisiynu o sgriptoriwm yn Lloegr tua diwedd ei esgobyddiaeth yn y 1320au.

Mae'r esgoblyfr yn llawysgrif femrwn 258 x 175 mm ac yn cynnwys tudalennau goliwiad hyfryd gyda deunydd helaeth o aur a lliwiau coeth. Mae un o'r lluniau yn portreadu'r esgob ei hun yn cyflwyno'r llyfr i'r eglwys gadeiriol. Yn ogystal â'r lluniau a'r testun Lladin, ceir enghreifftiau cynnar o nodiant cerddorol.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Peter Lord, Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd, 2003). Tud. 110-11, 196-7.