Esgob (gwyddbwyll)

Oddi ar Wicipedia
Gweler hefyd esgob, eglwyswr.

Darn mewn Gwyddbwyll yw Esgob.

Mae'r darn yn cael ei alw yn enwau eraill mewn ieithoedd eraill - fel y gwallgofddyn, yr eliffant, y rhedegydd neu'r negeseuwr.

Symud Esgob[golygu | golygu cod]

Symud Esgob

Gall Esgob symud unrhyw nifer o sgwariau yn lletraws ar y bwrdd Gwyddbwyll, ond nid yw'n gallu neidio. Gall symud ymlaen ac yn ôl ond dim ond i un cyferiad ar y tro. Yn y diagram gall symud i unrhyw sgwâr gyda chroes.

Mae gen ti ddau Esgob ar ddechrau'r gêm, un yn cychwyn ar sgwâr du, ac un ar sgwâr gwyn.

Gan mai symud yn lletraws yn unig y gall esgob mae wastad yn symud i'r un lliw sgwâr bob tro, felly mae'r esgob ddechreuodd ar y sgwâr gwyn yn gorffen y gêm ar sgwâr gwyn onibai ei fod wedi cael ei gipio.

Mae'n werth ceisio rhoi Esgob ar sgwâr lle gall fygwth neu reoli llawer o sgwariau eraill, a gall Esgob hefyd fod yn ddefnyddiol wrth greu Pin.

Fianchetto[golygu | golygu cod]

Esgob Fianchetto

Un ffordd o ddatblygu Esgob sy'n boblogaidd ymhlith chwaraewyr Gwyddbwyll yw y Fianchetto. Ystyr hyn yw bod y Gwerinwr o flaen y Marchog yn cael ei symud ymlaen, un sgwâr fel arfer, a'r Esgob yn dod i gymryd ei le. Mae Esgob Fianchetto yn gallu bod yn bwerus iawn gan ei fod yn bygwth y linell letraws hir (h1-a8 neu a1-h8). Y cyngor cyffredinol yw y dylid edrych ar ôl yr Esgob Fianchetto'n ofalus, a pheidio ei ildio os yn bosib, gan bod hyn yn gadael bylchau amlwg yn yr amddiffyn