Inuit

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Esgimo)
Merch Inuit, 1907

Inuit (unigol: Inuk) yw'r enw cyffredinol am grwpiau o bobl brodorol sy'n rhannu nodweddion diwylliant cyffredin ac sy'n byw yn ardaloedd Arctig, Alasga, Yr Ynys Las, Canada (Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin a Nunavut, talaith Quebec a gogledd Labrador). Hyd yn ddiweddar maen nhw wedi rhannu ffordd o fyw hynod agos, sy'n dibynnu'n draddodiadol ar bysgota a hela mamaliaid y môr a'r tir am hanfodion fel bwyd, gwres, golau, dillad, offer a chysgod. Mae'r iaith Inuit yn cael ei dosbarthu gyda'r ieithoedd Esgimo-Aleut. Ceir tua 150,000 o bobl Inuit heddiw. O ran crefydd mae'r mwyafrif yn Gristnogion neu'n Shamaniaid.

Mae Inuit Canada yn byw yn bennaf yn nhiriogaeth Nunavut, Nunavik yng ngogledd Quebec, ac yn ardal breswyl Inuit Nunatsiavut yn Labrador. Mae'r Inuvialuit yn byw yn ardal delta Afon Mackenzie, ar Ynys Banks, ac ar rannau o Ynys Victoria yn Nhiriogaethau'r Gogledd-orllewin. Ar un adeg ceid trigfannau Inuit yn Yukon, yn arbennig ar Ynys Herschel, ond maent wedi darfod erbyn heddiw. Mae Inupiaq Alasga yn byw ar Ogwedd Orllewinol Alasga a Gorynys Seward.

Eginyn erthygl sydd uchod am Ganada. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato