Erthygl olygyddol 26 Ebrill Rénmín Rìbào

Oddi ar Wicipedia
Erthygl olygyddol 26 Ebrill Rénmín Rìbào
Enghraifft o'r canlynolErthygl olygyddol, news article Edit this on Wikidata
IaithTsieineeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi26 Ebrill 1989 Edit this on Wikidata

Ar fore 25 Ebrill 1989 cyfarfu aelodau Politburo Plaid Gomiwnyddol Tsieina yng nghartref Deng Xiaoping i drafod ymateb myfyrwyr i farwolaeth y cyn-Ysgrifennydd Cyffredinol Hu Yaobang. Defnyddiwyd sgwrs y cyfarfod hwn i lunio erthygl olygyddol 26 Ebrill Rénmín Rìbào (人民日报, Tsieineeg am "Papur Dyddiol y Bobl"). Yn ystod y cyfarfod, datganodd aelodau'r Politburo bu undebau tebyg i Solidarność yn cael eu ffurfio gan fyfyrwyr mewn prifysgolion Beijing.[1] Dywed bod y myfyrwyr hyn yn condemio arweinyddiaeth y Blaid Gomiwnyddol ac yn cwestiynu "cenhedlaeth hŷn y chwyldroadwyr proletaraidd",[1] yr oedd Deng ei hunan yn rhan ohonynt. Gan weld ei rym dan fygythiad, mynnodd Deng fod yn "glir yn gwrthwynebu'r aflonyddwch"[2] er mwyn rheoli'r sefyllfa. Yn syth wedi'r cyfarfod dechreuodd Hu Qili a Li Peng drefnu cyhoeddiad erthygl olygyddol yn Rénmín Rìbào i fynegi safbwynt dim-goddefiad y Blaid.[2] Ysgrifennodd y diprwy bennaeth propaganda Zeng Jianhui y drafft a golygwyd gan Hu a Li. Ar noswaith 25 Ebrill darlledwyd yr erthygl olygyddol yn genedlaethol ar radio a theledu.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Zhang Liang, The Tiananmen Papers, golygwyd gan Perry Link a Andrew J. Nathan, t. 71. Efrog Newyd: PublicAffairs, 2001.
  2. 2.0 2.1 The Tiananmen Papers, p. 73.
  3. Link and Nathan in The Tiananmen Papers, p. 75.