Ernst Georg Ravenstein

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ernst Georg Ravenstein
Ernst-Ravenstein-Balkans-Ethnic-Map-1880.jpg
Ganwyd 30 Rhagfyr 1834(1834-12-30)
Frankfurt am Main, Yr Almaen
Bu farw 13 Mawrth 1913(1913-03-13)
Yn enwog am On the Celtic Languages in the British Isles; a Statistical Survey (1879)
Galwedigaeth Daearyddwr
Cartograffydd

Roedd Ernst Georg Ravenstein (30 Rhagfyr 1834 - 13 Mawrth 1913) yn ddaearyddwr a chartograffydd Almaeneg a ddatblygodd y ddamcaniaeth am fudo. Yng Nghymru mae'n enwog oherwydd papur ystadegol am yr ieithoedd Celtaidd a gyhoeddwyd ganddo yn 1879[1]. Roedd y papur hwn yn ffrwyth ymchwil i ymatebion a gafwyd i 1,200 o holiaduron a anfonodd at gofrestrwyr genedigaethau, clerigwyr ac ysgolfeistri. Hwn oedd yr arolwg cyntaf o'i fath am leoliad y siaradwyr Cymraeg.

Fe'i ganed yn Frankfurt am Main, yr Almaen i deulu o fapwyr. Er iddo dreuilio'r rhan fwyaf o'i oes yn Lloegr, bu farw yn yr Almaen ar 13 Mawrth.[2]

Gweithiau a gyhoeddodd[golygu]

Cofnododd lawer o'i syniadau yn ei lyfr Systematic Atlas (1884) a chynhwyswyd llawer o'i fapiau a'i ystadegau yn World Atlas Philips am ddegawdau. Ei gyfrol Map of Equatorial Africa (1884) oedd y mwyaf cynhwysfawr yn y cyfnod hwnnw a chadwodd yr wybodaeth yn gyfoes fel y darganfuwyd rhannau newydd o Affrica.

Cyhoeddodd Ravenstein hefyd:

  • Vasco da Gama's First Voyage (1898)
  • The Russians on the Amur (1861) (Testun llawn).
  • Handy Volume Atlas (1895; seithfed rhifyn, 1907)
  • Martin Behaim. Ei waith a'i Globe (1908)
  • A Life's Work (1908)
  • The New Census Physical, Pictorial, and Descriptive Atlas of the World (1911)
  • Philips' Handy-Volume Atlas of the World containing seventy seven New and Specially Engraved Plates with Statistical Notes & Complete Index
  • Hanes cartograffeg yn yr erthygl gyfatebol yn Encyclopædia Britannica 1911 .

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Ravenstein, E. G. (1879). On the Celtic Languages in the British Isles; a Statistical Survey, Journal of the Statistical Society of London, Cyfrol. 42, Rhif. 3 (Medi), pp. 579-643
  2. Dr. E. G. Ravenstein, Obituaries, The Times, 19 Mawrth 1913; tud. 9