Ernst Georg Ravenstein
Ernst Georg Ravenstein | |
---|---|
Ganwyd | 30 Rhagfyr 1834 Frankfurt am Main |
Bu farw | 13 Mawrth 1913 Hofheim am Taunus |
Dinasyddiaeth | yr Almaen |
Galwedigaeth | mapiwr, hunangofiannydd, ystadegydd, daearyddwr |
Gwobr/au | Medal Victoria |
Roedd Ernst Georg Ravenstein (30 Rhagfyr 1834 - 13 Mawrth 1913) yn ddaearyddwr a chartograffydd Almaeneg a ddatblygodd y ddamcaniaeth am fudo. Yng Nghymru mae'n enwog oherwydd papur ystadegol am yr ieithoedd Celtaidd a gyhoeddwyd ganddo yn 1879[1]. Roedd y papur hwn yn ffrwyth ymchwil i ymatebion a gafwyd i 1,200 o holiaduron a anfonodd at gofrestrwyr genedigaethau, clerigwyr ac ysgolfeistri. Hwn oedd yr arolwg cyntaf o'i fath am leoliad y siaradwyr Cymraeg.
Fe'i ganed yn Frankfurt am Main, yr Almaen i deulu o fapwyr. Er iddo dreuilio'r rhan fwyaf o'i oes yn Lloegr, bu farw yn yr Almaen ar 13 Mawrth.[2]
Gweithiau a gyhoeddodd[golygu | golygu cod]
Cofnododd lawer o'i syniadau yn ei lyfr Systematic Atlas (1884) a chynhwyswyd llawer o'i fapiau a'i ystadegau yn World Atlas Philips am ddegawdau. Ei gyfrol Map of Equatorial Africa (1884) oedd y mwyaf cynhwysfawr yn y cyfnod hwnnw a chadwodd yr wybodaeth yn gyfoes fel y darganfuwyd rhannau newydd o Affrica.
Cyhoeddodd Ravenstein hefyd:
- Vasco da Gama's First Voyage (1898)
- The Russians on the Amur (1861) (Testun llawn).
- Handy Volume Atlas (1895; seithfed rhifyn, 1907)
- Martin Behaim. Ei waith a'i Globe (1908)
- A Life's Work (1908)
- The New Census Physical, Pictorial, and Descriptive Atlas of the World (1911)
- Philips' Handy-Volume Atlas of the World containing seventy seven New and Specially Engraved Plates with Statistical Notes & Complete Index
- Hanes cartograffeg yn yr erthygl gyfatebol yn Encyclopædia Britannica 1911 .