Ernest Rhys

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ernest Rhys, tua 1890

Bardd, nofelydd a golygydd o dras Cymreig, a aned yn Islington, oedd Ernest Rhys (17 Gorffennaf 185925 Mai 1946).

Roedd yn un o sylfaenwyr The Rhymers' Club, gyda W. B. Yeats a T. W. Rolleston. Roedd hefyd yn gyfaill i'r bardd Ezra Pound.

Fe'i cofir yn bennaf am ei waith fel golygydd y gyfres Everyman's Library i gwmni Dent rhwng 1906 a 1946.

Ysgifennodd nifer o nofelau rhamantaidd ag iddynt gefndir Celtaidd yn aml, yn ogystal â cherddi, dau werslyf ar hanes a llenyddiaeth Cymru, ac erthyglau ar y Celtiaid. Fel ei gyfaill W. B. Yeats tueddai i gofleidio'r syniad o'r "Gwyll Celtaidd". Cyfieithiodd gerddi Cymraeg i'r Saesneg a golygodd flodeugerdd Geltaidd ddylanwadol, A Celtic Anthology (1927).[1]

Llyfryddiaeth ddethol[golygu]

  • The Fiddler of Carne (1896). Nofel.
  • A London Rose (1894). Cerddi.
  • Welsh Ballads (1898). Cerddi.
  • The Whistling Maid (1900). Nofel am Gymru.
  • The Man at Odds (1904). Nofel am Gymru.
  • The Leaf Burners (1917). Cerddi.
  • Black Horse Pit (1925). Nofel.
  • A Celtic Anthology (1927).
  • Rhymes for Everyman (1933). Cerddi.
  • Song of the Sun (1937). Cerddi.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. (Saesneg) Gwall wrth ddefnyddio Nodyn:Dyf gwe: mae'r paramedrau url a teitl yn angenrheidiol.. Prosiect Gutenberg. Adalwyd ar 3 Mai 2012.