Ernest Borgnine

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Borgnine yn 2010

Actor ffilm a theledu o Americanwr oedd Ernest Borgnine (ganwyd Ermes Effron Borgnino;[1] 24 Ionawr 1917 – 8 Gorffennaf 2012).[2] Ymddangosodd yn y comedi sefyllfa McHale's Navy (1962–66) a'r gyfres deledu acsiwn Airwolf yn y 1980au, a nifer o ffilmiau gan gynnwys From Here to Eternity (1953), The Dirty Dozen (1967), The Wild Bunch (1969), a The Poseidon Adventure (1972). Enillodd Wobr yr Academi am yr Actor Gorau mewn Rhan Arweiniol am Marty (1955).[1]

Bu farw o fethiant yr aren.[3]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Gates, Anita (8 Gorffennaf 2012). Ernest Borgnine, Oscar-Winning Actor, Dies at 95. The New York Times. Adalwyd ar 12 Mawrth 2013.
  2. (Saesneg) Obituary: Ernest Borgnine. The Daily Telegraph (9 Gorffennaf 2012). Adalwyd ar 12 Mawrth 2013.
  3. (Saesneg) Mather, Kate a Powers, Ashley (8 Gorffennaf 2012). Ernest Borgnine died of kidney failure, his publicist says. Los Angeles Times. Adalwyd ar 12 Mawrth 2013.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:


Us-actor.svg Eginyn erthygl sydd uchod am actor Americanaidd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.