Erin Brockovich (ffilm)

Oddi ar Wicipedia
Erin Brockovich

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Steven Soderbergh
Cynhyrchydd Danny DeVito
Stacey Sher
Michael Shamberg
Gail Lyon
John Hardy
Ysgrifennwr Susannah Grant
Serennu Julia Roberts
Albert Finney
Aaron Eckhart
Cerddoriaeth Thomas Newman
Sinematograffeg Ed Lachman
Golygydd Anne V. Coates
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Universal Pictures
Columbia Pictures
Amser rhedeg 130 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg

Mae Erin Brockovich (2000) yn ffilm ddrama-ddogfen sy'n dramatieddio hanes brwydr gyntaf Erin Brockovich yn erbyn cwmni nwy ac olew enfawr o'r enw PG&E. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Steven Soderbergh a serennodd Julia Roberts fel y prif gymeriad. Enillodd Roberts Wobr yr Academi am yr Actores Orau am ei rhan yn y ffilm. Mae'r ffilm yn seiliedig ar hanes go iawn gwraig o'r enw Erin Brockovich a wnaeth ymddangosiad cameo yn y ffilm fel gweinyddes o'r enw Julia. Cyfansoddwyd y sgôr cerddorol wreiddiol gan Thomas Newman.

Cast[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm ddrama. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.