Epona

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Epona, 3rd c. AD, from Freyming (Moselle), France (Musée Lorrain, Nancy)

Roedd Epona yn dduwies Geltaidd a addolid yng Ngâl ac ardaloedd Celtaidd eraill. Roedd yn amddiffynnydd ceffylau, mulod ac asynnod, ac yn dduwies ffrwythlondeb. Awgrymodd H. Hubert fod y dduwies a'i cheffylau yn arwain eneidiau'r meirw. Ceir cerfluniau o Epona trwy'r Ymerodraeth Rufeinig, y rhan fwyaf ond nid y cyfan wedi eu cysegru iddi gan Geltiaid. Dangosir y dduwies yn marchogaeth mewn llawer o'r cerfluniau.

Daw'r enw Galeg Epona, "Caseg Ddwyfol", o'r prto-Geltig *epōs (ceffyl) - cynharer "ebol" yn Gymraeg. Mae nifer o ysgolheigion wedi ei chysylltu a Rhiannon ym Mhedair Cainc y Mabinogi. Y dduwies gyfatebol ym mytholeg Iwerddon yw Macha, duwies sofraniaeth a gysylltir â defodau'n ymwneud â cheffylau.

Efallai fod cysylltiad rhwng cwlt Epona a'r cerflun sialc o geffyl gwyn anferth a welir yn Uffington, de Lloegr heddiw, yn ogystal.

Ddraig.svg Eginyn erthygl sydd uchod am fytholeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill