Enseffalitis arbofirws
Oddi ar Wicipedia
| Enseffalitis arbofirws | |
| Dosbarthiad ac adnoddau allanol | |
| ICD-10 | A83.-A84. |
|---|---|
| MeSH | [1] |
Enseffalitis a achosir gan haint arbofirws yw enseffalitis arbofirws. Caiff ei achosi gan grŵp o firysau sy'n cael eu cario a'u trosglwyddo drwy bigiadau gan rai arthropodau, yn cynnwys mosgitos a throgod.[1]
Mae'r pryfed sy'n trosglwyddo enseffalitis arbofirws yn dal y firysau drwy bigo mamaliaid bychain, anifeiliaid domestig, ac adar. Mae enghreifftiau o enseffalitis arbofirws yn cynnwys:[1]
- Enseffalitis Gorllewin Nîl/Twymyn Gorllewin Nîl)
- Enseffalitis Japaneaidd
- Enseffalitis sy'n cael ei gludo gan drogod
- Enseffalitis Dyffryn Murray
- Enseffalitis Califfornia
- Enseffalitis St Louis
- Enseffalitis ceffylaidd gorllewinol
- Enseffalitis ceffylaidd dwyreiniol
- Twymyn trogod Colorado
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ 1.0 1.1 Enseffalitis: Achosion. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.