Enniskillen
Oddi ar Wicipedia
Prif dref Swydd Fermanagh yng Ngogledd Iwerddon yw Enniskillen (Gwyddeleg: Inis Ceithleann). Saif ar Afon Erne, rhwng rhannau uchaf ac isaf Lough Erne. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 13,599.
Daeth i feddiant Lloegr yn 1607, wedi gwarchae cynharach ar y castell yn 1594, ac roedd yn un o ganolfannau yr ymsefydlwyr Protestannaidd Seisnig ac Albanaidd yn y 17eg ganrif, ac yn ganolfan filitaraidd. Erbyn hyn mae 61.5% o'r boblogaeth yn Gatholigion a 36.3% yn Brotestaniaid.
Addysgwyd nifer o enwogion yn Ysgol Frenhinol Portora, yn cynnwys Oscar Wilde a Samuel Beckett,