Enid Blyton

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Enid Blyton

Roedd Enid Mary Blyton (11 Awst 189728 Tachwedd1968) yn un o awduron llyfrau i blant mwyaf llwyddiannus y Deyrnas Unedig. Cawsai ei hadnabod fel Enid Blyton ac fel Mary Pollock. Cafodd ei disgrifio unwaith fel "one-woman fiction machine", ac mae'n enwog am ei nifer o gyfresi o lyfrau yn seiliedig ar yr un criw o gymeriadau. Cafodd Blyton lwyddiant mawr ledled y byd, a gwerthodd 400 miliwn o gopïau. Blyton yw'r chweched awdur mwyaf poblogaidd ledled y byd erios; yn ôl Translationum Mynegai UNESCO, roedd 3400 o gyfeithiadau o'i llyfrau ar gael yn 2007. Mae ei gwerthiant tu ôl Lenin a Shakespeare.

Un o'i chymeriadau amlycaf oedd Noddy, a grëwyd ar gyfer plant a oedd yn dysgu i ddarllen. Fodd bynnag, ei chryfder pennaf oedd nofelau ar gyfer darllenwyr ifanc, lle gallai plant ddarllen am yr anturiaethau heb lawer o gymorth wrth oedolion. Y cyfresi mwyaf llwyddiannus yn y genre hwn oedd The Famous Five (21 nofel rhwng 1942-1963, a soniai am bedwar o blant a'u ci), y Five Find-Outers and Dog, (15 nofel, 1943-1961, lle byddai pump o blant yn achub y blaen ar yr heddlu) yn ogystal â The Secret Seven (15 nofel, 19491963, cymdeithas o saith o blant a oedd yn datrys amrywiaeth o ddirgelion). Mae ei gwaith yn cynnwys storïau antur, ffantasi ac weithiau hud a lledrith. Roedd ei llyfrau yn hynod boblogaidd ym Mhrydain, Malta, India, Pacistan, Seland Newydd, Sri Lanka, Singapore ac Awstralia; mae ganddi gyfeithiadau yn yr hen Iwgoslafia, Siapan a ledled y byd. Cyfieithwyd ei gwaith i bron 90 o ieithoedd.


Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.