Enguerrand VII de Coucy

Oddi ar Wicipedia
Enguerrand VII de Coucy
Ganwyd1339 Edit this on Wikidata
Unknown Edit this on Wikidata
Bu farw18 Tachwedd 1397 Edit this on Wikidata
Bursa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethcondottieri, person milwrol Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
TadEnguerrand VI, Lord of Coucy Edit this on Wikidata
MamCatherine of Austria, Lady of Coucy Edit this on Wikidata
PriodIsabella de Coucy, Isabelle of Lorraine Edit this on Wikidata
PlantIsabel de Coucy, Marie I de Coucy, Countess of Soissons, Philippa de Coucy Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd y Gardas Edit this on Wikidata
Arfbais Enguerrand VII de Coucy

Uchelwr Ffrengig oedd Enguerrand VII de Coucy (13391397), seigneur de Coucy. Roedd yn fab i Enguerrand VI de Coucy a'i wraig Catherine o Awstria, merch Leopold I, Dug Awstria.

Cofnodir i Enguerrand fod yn bresennol ym Mrwydr Poitiers yn 1356, pan gymerwyd brenin Ffrainc, Jean II le Bon yn garcharor gan Edward, y Tywysog Du. Pan ddechreuodd y trafodaethau am delerau rhyddhau'r brenin, roedd Enguerrand yn un o'r gwystlon a anfonwyd i Lundain. Enillodd ffafr y brenin Edward III, a roddodd ei ferch Isabelle (1332-1382) iddo mewn priodas.

Daeth i amlygrwydd yn gwrthwynebu gwrthryfel y Jacquerie yn 1358. Roedd ganddo hawl i diriogaethau yn y Swistir ac Awstria fel etifeddiaeth ei fam, ac yn 1375 cyflogodd fyddin o filwyr hur, yn cynnwys Owain Lawgoch a'i gwmni, i geisio eu hennill iddo yn yr hyn a elwir yn Rhyfel y Gugler. Methodd yr ymgais oherwydd gwrthwynebiad ffyrnig y Swisiaid. Yn 1377, roedd yn ymladd dros frenin Ffrainc yn erbyn y Saeson wedi i'r brwydro yn y Rhyfel Can Mlynedd ail-ddechrau.

Yn 1396, aeth ar groesgad gyda Sigismond o Luxembourg yn erbyn y Twrciaid. Gorchfygwyd y Cristionogion gan y Twrciaid dan y Swltan Bayazid I ym Mrwydr Nicopolis, ar y 25 neu 28 Medi, a chymerwyd Enguerrand yn garcharor. Bu farw yn garcharor yn gynnar y flwydduyn ddilynol, un ai o'i gwyfau neu o'r Pla Du.