Endif (cyfrifiadureg)
- Am y llysieuyn, gweler Endif
Allweddair yn yr iaith rhaglennu sgript gyfrifiadurol csh yw endif. Mae e'n gorffen bloc if (bloc amodol), er enghraifft:
if ( $x != 1 ) then echo $x # cyfarwyddiadau eraill endif
ond mae'n bosib cael cyfarwyddyd amodol ar un linell o gôd yn unig, pan ydych chi'n gadael allan yr allweddeiriau then ac endif, er enghraifft:
if ( $x != 1 ) echo $x
Ond rhybudd! Mae gwahaniaeth pwsyig rhwng y ddwy enghraifft ganlynol:
if ( ! -e fynghalendr ) then cal 2024 > fynghalendr endif
ac:
if ( ! -e fynghalendr ) cal 2024 > fynghalendr
Yn yr enghraifft gyntaf, os dydy'r ffeil fynghalendr ddim yn bodoli eisoes, mae'r sgript yn ei chreu, ac yn rhoi ynddi hi galendr y flwyddyn 2024 sy'n cael ei gynhyrchu gan y rhaglen cal.
Ond yn yr air enghraifft, crëwyd y ffeil allbwn cyn i'r rhaglen enrhifo'r prawf bodolaeth ffeil, ac felly os doedd y ffeil ddim yn bodoli, mae'n gorffen gyda ffeil wag, heb i'r sgript wedi gweithredu'r rhaglen cal.