Emyr Lewis (chwaraewr rygbi)
Oddi ar Wicipedia
Mae Emyr Lewis (ganwyd 29 Awst 1968, Caerfyrddin) yn gyn-chwaraewr rygbi'r undeb ac roedd yn chwaraewr rhyngwladol dros Gymru. Yn flaenwr, cafodd 41 o gapiau yn chwarae dros Gymru rhwng 1991 a 1996. Bu'n gapten y tîm cenedlaethol hefyd.
Chwaraeodd Lewis ei rygbi glwb dros CR Caerdydd.