Emrys Owain Roberts

Oddi ar Wicipedia
Emrys Owain Roberts
Ganwyd22 Medi 1910 Edit this on Wikidata
Caernarfon Edit this on Wikidata
Bu farw29 Hydref 1990 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE, CBE Edit this on Wikidata

Cyfreithiwr ac Aelod Seneddol Rhyddfrydol olaf etholaeth seneddol Sir Feirionnydd oedd Emrys Owen (neu Owain) Roberts (22 Medi 191029 Hydref 1990). Roedd hefyd yn ŵr busnes.[1]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Emrys Roberts yn nhref Caernarfon 22 Medi 1910 yn fab hynaf i Owen Owens Roberts, haearnwerthwr, a Mary Grace (née Williams) y ddau'n enedigol o'r un dref.

Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Caernarfon,[2] Coleg Brifysgol Cymru, Aberystwyth; Coleg Gonville a Caius, Caergrawnt ac yn Ysgol Cyfraith Ryngwladol Genefa.[3] Daeth yn gyfreithiwr ym 1933 ac yn fargyfreithiwr wrth far Gray's Inn ym 1944.

Gwasanaethodd yn yr Awyrlu Brenhinol yn ystod yr Ail Ryfel Byd gan ei ddyrchafu i swydd Squadron Leader.[4]

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Ym 1945 cafodd Emrys Roberts gwahoddiad i lenwi'r bwlch fel ymgeisydd y Blaid Ryddfrydol yn Etholaeth Caernarfon ar ôl farwolaeth David Lloyd George methodd cael yr enwebiad gan ei fod yn nhraddodiad Cymru Fydd y Rhyddfrydwyr Cenedlgar Cymreig a bod Rhyddfrydwyr Caernarfon yn chwilio am aelod mwy cefnogol i'r Rhyddfrydwr Cenedlaethol a Cheidwadol y bu Lloyd George yn eu cefnogi ar adeg ei farwolaeth. Wedi ei wrthod am ei genedlgarwch gan Rhyddfrydwyr Arfon cafodd ei wahodd i sefyll dros achos Rhyddfrydiaeth Gymreig, llawer mwy traddodiadol, Sir Feirionnydd. Ond nid oedd y gwynt gwleidyddol yn ei ffafrio.

Daeth llwyddiant i'r Blaid Ryddfrydol yn yr etholaeth yn wreiddiol o ehangu'r bleidlais, yn arbennig felly yn yr ardaloedd diwydiannol megis Ffestiniog. Perchenogion Chwareli megis David Williams, Castell Deudraeth a Samuel Holland cafodd lwyddiant o ehangu'r bleidlais. Erbyn 1922 yr oedd y Blaid Lafur wedi cael troedle yn yr ardaloedd llechi ac yn gweld yr hen sgweiri Rhyddfrydol mor wrthun â'r hen sgweiri Torïaidd.

Ym 1910, tuag adeg etholiad y flwyddyn honno daeth ystadau chwarelyddol ardal Corris ac Abergynolwyn ar y farchnad, heb fawr obaith eu gwerthu. Sylweddolodd y ddarpar AS Rhyddfrydol ar y pryd Henry Haydn Jones bod achub y chwareli yn holl bwysig i'w achos etholiadol a buddsoddodd miloedd lawer o arian ynddynt; ond gan mae buddsoddiad gwleidyddol ydoedd, yn hytrach nag un busnes go iawn, methodd y chwareli, a chafodd Haydn Jones (er gwaethaf ei gefndir dosbarth cyffredin) ei ddarlunio fel un o'r hen "Rhyddfrydwyr Diwydiannol", a rhoddodd gorau i wleidydda gan ddisgwyl colli ei sedd i Lafur.

Er gwaethaf pob darogan, fe lwyddodd Emrys Roberts i dal gafael ar y sedd ym 1945 a 1950, er ei herio o'r chwith gan y Blaid Lafur ac o'r ochr gwladgarol gan ymgeisydd Plaid Cymru Gwynfor Evans

Ym 1951, fe benderfynodd Gwynfor Evans i beidio cystadlu y sedd. Collodd Emrys Roberts y sedd i'r ymgeisydd Llafur; hyd ddiwedd ei oes bu Emrys Roberts yn wenwynig tuag at Gwynfor Evans gan iddo gredu bod Gwynfor wedi tynnu allan ym 1951 yn unswydd i greu ornest Llafur v Plaid ym 1955, ornest a fethodd dwyn ffrwyth i'r achos cenedlaethol. Hyd ei farw bu Emrys Robert yn mynnu y byddai wedi dod i gytundeb a Gwynfor i gadw'r sedd yn achos cenedlaethol "Cymru Fydd" a chenedligrwydd Cymru, ond bod Gwynfor yn gwrthod tycio! [5]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Fe'i ddyrchafwyd yn MBE ym 1946 ac yn CBE ym 1976.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. ROBERTS, EMRYS OWEN (1910-1990), gwleidydd Rhyddfrydol a gwas cyhoeddus
  2. Balsom a Birch, A Political and Electoral Handbook for Wales (Gower, 1980), t.87
  3. A. Wyburn-Powell, Clement Davies: Liberal Leader (Politico's, 2003), t.141
  4. The Times, 22.11.45
  5. David Alwyn ap Huw Humphreys, "Atgofion am Sygrsiau efo'r Diweddar Emrys Owain Roberts" (2013)
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Henry Haydn Jones
Aelod Seneddol dros Feirionnydd
19451951
Olynydd:
Thomas William Jones