Emirad Islamaidd Afghanistan
Gwladwriaeth Islamig dan reolaeth y Taleban yn Afghanistan a fodolodd o o 1996 hyd 2001 oedd Emirad Islamaidd Afghanistan. Gyda'i phrifddinas yn Kabul, roedd yr emirad yn cynnwys y rhan fwyaf o'r wlad, yn cynnwys tiriogaeth y Pashtwniaid, ond roedd rhannau, yn arbennig cadarnle Cynghrair y Gogledd yn y gogledd, yn gorwedd tu allan i reolaeth y Taleban ac yn gwrthwynebu eu rheolaeth.
Cydnabuwyd Emirad Islamaidd Afghanistan yn ddiplomyddol gan dair gwladwriaeth yn unig: yr Emiradau Arabaidd Unedig, Pacistan, a Saudi Arabia. O dan arweinyddiaeth Mwlah Mohammed Omar, arweinydd y Taleban, roedd mwlah yh rheoli pob pentref, y rhan fwyaf ohonynt gyda chefndir o addysg yn ysgolion crefyddol Islamaidd ym Mhacistan.
Daeth y Taleban yn ddrwg-enwog am eu triniaeth hallt o fenywod. Gorfodwyd menywod i wisgo'r burqa ar goedd; ni chaniateid iddynt weithio y tu allan i'r cartref; ni chaniateid iddynt gael eu haddysgu ar ôl cyrraedd wyth oed, a than hynny caniateid iddynt astudio'r Coran yn unig; ni chaniateid iddynt gael eu trin gan feddygon gwrywaidd heb warchodwr yn bresennol; a gwynebant chwipio cyhoeddus a'r gosb eithaf am droseddu yn erbyn cyfraith y Taleban, seiliedig ar ddarlleniad llythrennol o'r gyfraith sharia ar ei llymaf.
Yn o'r pethau a ganiatawyd gan lywodraeth yr emirad — neu gan rai elfennau ynddi, o leiaf — oedd dinistrio cerfluniau byd-enwog Bamiyan trwy eu shelio. Roedd y llywodraeth yn gweld y cerfluniau Bwdhaidd hynafol fel delweddau "an-Islamaidd" a "phaganaidd", ond roeddent wedi sefyll yn Bamiyan am dros 2,000 o flynyddoedd heb fawr niwed cyn hynny.
Baniwyd cerddoriaeth o bob math, ffilmiau a ffotograffau.
Cafodd llywodraeth yr emirad ei dymchwel yn 2001 pan ymosododd lluoedd NATO ac UDA ar y wlad.