Emily Gravett

Oddi ar Wicipedia
Emily Gravett
Ganwyd1972 Edit this on Wikidata
Brighton Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Brighton Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, darlunydd, awdur plant Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Kate Greenaway, Medal Kate Greenaway Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.emilygravett.com Edit this on Wikidata
Poster Diwrnod y llyfr 2007 gyda arlunwaith Emily Gravett.

Darlunydd ac awdur llyfrau plant yw Emily Gravett (ganwyd Gorffennaf 1972),[1] sydd wedi ennill nifer o wobrau.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Bu'n daith galed i Gravett ddod yn ddarlunwraig ac yn awdures llwyddiannus. Ganwyd ym Mrighton, ac ar ôl gadael yr ysgol yn 16 oed, fe aeth Gravett i deithio gyda'i chariad am wyth mlynedd, tra'n byw ar fws. Roedd yn amhosibl i'r ddau ganfod swydd ac yntau heb gyfeiriad parhaol ac roedd pobl yn eu barnu yn ôl eu golwg. Disgynodd Gravett yn feichiog yn ei hugeiniau cynnar, a phan anwyd ei mab dywedodd y meddygon wrthi fod y plentyn wedi anadlu meconiwm, a achosodd iddo grio'n ddi-baid. Yr unig peth a allodd Gravett ei wneud i'w atal oedd i ddarllen iddo.[2]

Fe ymgeisiodd Gravett i fynd ar gwrs celf ym Mhrifysgol Brighton, ond gan ei bod wedi gadael yr ysgol heb gymwysterau, roeddent yn anfon y ffurflen UCAS yn ôl ati heb ei chysidro. Ond roedd hi'n benderfynnol, ac yn y diwedd fe gynchyrchodd gofnod darluniedig ac ysgrifenedig er mwyn perswadio'r tiwtoriad i adael hi ar y cwrs.[2]

Yn 2004, enillodd Wobr Macmillan am ddarlunio'r llyfr Wolves, enillodd y llyfr Wobr Efydd Llyfrau Plant Nestle, Gwobr Wow y Cymdeithas Llythrennedd Cenedlaethol a Medal Kate Greenaway yn 2005.[3] Yn dilyn hynnu, cafodd ei chomisiynnu i ddarlunio deunydd ar gyfer hybu Diwrnod y Llyfr 2007.

Fe enillod Fedal Kate Greenaway unwaith eto yn 2008, ar gyfer y llyfr Little Mouse's Big Book of Fears.[4]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Gwobrau a nomineiddiadau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]