Elwyn Ioan

Oddi ar Wicipedia
Elwyn Ioan
Ganwyd1947 Edit this on Wikidata
Pen-bont Rhydybeddau Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Ardwyn Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, cartwnydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Clawr un o lyfrau yng nghyfres Llyfrau Lloerig, sef Arswyd Fawr! wedi'i sgwennu a'i ddylunio gan Elwyn Ioan.

Arlunydd, chartwnydd ac awdur yw Elwyn Ioan (ganwyd 1947) sy'n adnabyddus am ddarlunio nifer fawr o lyfrau Cymraeg. Dyfeisiodd y gyfres Cadwgan a sawl cyfres arall i blant.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Cafodd Elwyn ei eni ym Mhen-bont Rhydybeddau ger Aberystwyth. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Trefeurig ac Ysgol Ramadeg Ardwyn, Aberystwyth cyn mynd ymlaen i astudio yng Ngholeg Celf Caerfyrddin. Cychwynnwyd gwasg newydd Y Lolfa yn 1967 gan Robat Gruffudd ac ymunodd Elwyn yn 1968 fel yr aelod cyntaf o'r staff. Am ddegawdau bu'n cyfrannu at gylchgronau fel Lol, Wcw a chylchgronau'r Urdd a chafodd sawl cartŵn yn y cylchgrawn Private Eye.

Wedi 18 mlynedd gyda'r Lolfa mae bellach yn gweithio ar liwt ei hun.[1]

Yn Ngŵyl Bedwen Lyfrau Crymych 2008 cyflwynwyd tlws Cyfraniad Oes i'r Diwydiant Cyhoeddi iddo.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwobr 'annisgwyl' i Elwyn , BBC Cymru, 7 Mai 2008. Cyrchwyd ar 22 Medi 2016.
  2.  Gwobr Cyfraniad Oes i Elwyn Ioan. Cyngor Llyfrau Cymru. Adalwyd ar 22 Medi 2016.