Ellen Hunter

Oddi ar Wicipedia
Ellen Hunter
Ganwyd12 Chwefror 1968 Edit this on Wikidata
Wrecsam Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethseiclwr cystadleuol Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Seiclwraig Gymreig yw Ellen Hunter (ganwyd 12 Chwefror 1968, Wrecsam[1]) a pheilot tandem paralympaidd ar gyfer Aileen McGlynn.[2]

Torodd Hunter a McGlynn record y byd ar gyfer tandem hedfan 200m, merched, yn Ebrill 2004.[2]

Ym Mhencampwriaethau Trac y Byd, IPC 2006 yn Aigle, Swistir, fe enillodd y pâr fedal aur yn y Kilo Tamdem (VI), gan osod record newydd o 1:10.795 yn y broses ac ennill Crys Enfys; roeddent yn 17fed ymysg 33 o ddynion.[2]

Torrodd ei chefn mewn damwain mewn cystadleuaeth Omnium Merched yn Velodrome Herne Hill, dywedodd y medygon wrthi na fyddai'n gallu reidio beic eto, gwariodd chwe wythnos yn yr ysbytu.[2]

Cyfarfu Hunter â'i gŵr Paul Hunter drwy seiclo; dewiswyd y ddau i reidio fel peilotiaid ar gyfer seiclwyr gyda golwg wedi'i amharu yng Ngemau Paralympaidd yr Haf, 2004 yn Athen, fel rhan o dîm British Cycling.[2]

Hyfforddir Hunter a McGlynn gan Barney Storey,[3] torront record y byd unwaith eto ym Mhencampwriaethau Trac y Byd, UCI ym Manceinion, gydag amser o 1:10.381, er hyn ni lwyddon nhw i ennill le ar y podiwm.[4]

Palmarès[golygu | golygu cod]

2004
1af Kilo Tandem Merched, (B 1-3), Gemau Paralympaidd yr Haf 2004
2il Sbrint Tandem Merched, (B 1-3), Gemau Paralympaidd yr Haf 2004
2006
1af Sbrint Tandem,, Cwpan y Byd Paralympaidd (B/VI female)[2]
4ydd Pencampwriaethau Cenedlaethol Sbrint Tandem Prydain (gyda Joby Ingram-Dodd)
2007
1af Sbrint Tandem, Cwpan y Byd Paralympaidd (B/VI benywod)[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]