Elizabeth Williams (Y Ferch o'r Sger)

Oddi ar Wicipedia
Elizabeth Williams
Ganwyd1747 Edit this on Wikidata
Bu farw1776 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru

Elizabeth Williams, sy'n fwy adnabyddus fel Y Ferch o'r Sger (1747 - 1776) oedd gwrthrych y gân adnabyddus 'Y Ferch o'r Sger'. Roedd Elizabeth yn byw yn Nhŷ'r Sger, ger Cynffig, ar yr arfordir rhwng Margam a Phorthcawl ym Morgannwg. Dywedir iddi syrthio mewn cariad a thelynor tlawd, Thomas Evans, ond nid oedd ei theulu yn fodlon iddi ei briodi. Gorfodwyd hi i briodi gŵr cefnog o'r enw Thomas Kirkhouse o Gastell-nedd.

Rai blynyddoedd wedyn, cyfansoddodd Thomas Evans y gân Y Ferch o'r Sger:

Mab wyf fi sy'n byw dan benyd
Am f'anwylyd fawr ei bri;
Gwaith fwy'n ei charu'n fwy na digon,
Curio wnaeth fy nghalon i ...

Enwyd Ysgol Y Ferch o'r Sger yng Nghorneli, bwrdeisdref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ar ei hôl.

Nofelau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]