Eliffant

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Eliphantidae)
Ar gyfer y band cerddorol gweler: Eliffant (band)
Eliffant
Eliffant Affrica ym Mharc Cenedlaethol Mikumi, Tanzania
Eliffant Asia ym Mharc Cenedlaethol Bandipur, India
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: animalia
Ffylwm: Chordata
Is-ffylwm: Vertebrata
Dosbarth: Mamal
Uwchurdd: Afrotheria
Urdd: Proboscidea
Teulu: Elephantidae
Gray, 1821
Genera

Loxodonta
Elephas

Mamal croendew enfawr ysgithrog a llysysol sy'n perthyn i deulu'r Elephantidae yw eliffant. Mae gan eliffantod groen tew bron yn ddi-flew, dau ysgithr ifori, trwyn hir gafaelog (a elwir yn dduryn), clustiau mawrion gwyntyllaidd, pen mawr gyda llawer o feinwe ddiplöig ac ymennydd datblygedig iawn, a traed byrion a chrymion gyda phum bys. Maen nhw'n bwyta planhigion, yn arbennig glaswellt a dail a byw nes eu bont yn 70 neu hŷn. Yn draddodiadol cânt eu dosbarthu'n ddau ddosbarth ar wahân sef eliffant Asia (Loxodonta africana) ac eliffant Affrica (Elephas maximus). Erbyn heddiw, fodd bynnag, credir fod eliffant y safana (L. africana) ac eliffant y fforest (L. cyclotis) yn ddau rywogaeth gwahanol.

Mae nhw'n perthyn yn agos i'r mamoth a'r mastodon sydd ill dau bellach wedi darfod o'r tir; hwy ydy rhywogaeth olaf urdd y durynogion (Proboscidea). Nhw hefyd ydy'r mamal mwyaf sydd i'w gael, gyda'u taldra oddeutu 4 m (13 tr) a'u pwysau'n medru bod cymaint â 7,000 kg (15,000 lb).


Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Chwiliwch am eliffant
yn Wiciadur.
Eginyn erthygl sydd uchod am famal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am eliffant
yn Wiciadur.