Elio Di Rupo

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Elio Di Rupo

Prif Weinidog Gwlad Belg yw Elio Di Rupo (ganwyd 18 Gorffennaf 1951) a fo ydy arweinydd y Blaid Sosialaidd - y sosialydd cyntaf ers i Edmond Leburton adael ei waith yn 1974. Daeth yn brif weinidog ar 6 Rhagfyr 2011, gan ddod â therfyn i 589 o ddyddiau heb lywodraeth genedlaethol yng Ngwlad Belg.

Mae Di Rupo yn anffyddiwr, yn hoyw, ac yn Saer Rhydd. Mae'n rhugl yn y Ffrangeg, y Saesneg, a'r Eidaleg, ond nid yr Iseldireg, sydd yn iaith frodorol i 60% o Felgiaid.

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:


Baner Gwlad BelgEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Felgiad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.