Elinor Bennett

Oddi ar Wicipedia
Elinor Bennett
Elinor Bennet ar y llwyfan.
Ganwyd17 Ebrill 1943 Edit this on Wikidata
Llanidloes Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethtelynor Edit this on Wikidata
PriodDafydd Wigley Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.elinorbennettharp.com/ Edit this on Wikidata

Telynores sydd wedi gweithio yng ngwledydd Prydain, Ewrop a'r Unol Daleithiau yw Elinor Bennett Wigley (ganwyd 17 Ebrill 1943).

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganed Elinor Bennett Owen yn Llanidloes ac yn chwe blwydd oed symudodd gyda'i theulu i Lanuwchlyn ger y Bala, i dŷ oedd yn rhan o hen gartref O.M. Edwards, y Neuadd Wen. Aeth hi a'i chwaer i ysgol gynradd leol cyn symud ymlaen i Ysgol Ramadeg y Bala i Ferched (Ysgol y Berwyn erbyn hyn).

Yn ôl Bennett, nid oedd hi'n siwr beth oedd am wneud ar ôl gadael ysgol, ac nid oedd wedi astudio cerddoriaeth yn yr ysgol. Roedd athro'r gyfraith, Syr David Huws Parry yn byw drws nesaf yn y Neuadd Wen, am ei fod yn briod â merch O.M. Edwards. Felly penderfynodd fynd i astudio'r gyfraith yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Ar ôl graddio, aeth Bennett i weithio mewn swyddfa gyfreithiol yn Llundain, oedd yn ei geiriau ei hun yn "waith digon diflas". Penderfynodd ymgeisio am ysgoloriaeth i astudio yn Academi Gerdd Frenhinol Llundain gydag Osian Ellis. Enillodd yr ysgoloriaeth a threuliodd dair blynedd yn byw yn y brifddinas.[1]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Bennett yw gwraig y gwleidydd a chyn-arweinydd Plaid Cymru, Dafydd Wigley. Bu farw dau o bedwar plentyn y cwpl, gan farw o gyflwr genetig etifeddol.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  BBC Cymru - Elinor Bennett. BBC Cymru. Adalwyd ar 2 Mawrth 2016.
  2. Elinor Bennett Wigley talks about her new autobiography, Taut Strings (en) , Wales Online, 9 Mawrth 2012. Cyrchwyd ar 12 Mai 2014.
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.