Eliffant Asiaidd
Oddi ar Wicipedia
| Eliffant Asiaidd | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Proboscidea |
| Teulu: | Elephantidae |
| Genws: | Elephas |
| Rhywogaeth: | E. maximus |
| Enw deuenwol | |
| Elephas maximus (Linnaeus, 1758) |
|
Un o'r tri rhywogaeth o Eliffant sy'n fyw heddiw yw'r Eliffant Asiaidd (Elephas maximus). Fe'i gelwir weithiau yn Eliffant Indiaidd, enw un o'r tri is-rywogaeth. Er ei fod ychydig yn llai na'r Eliffant Affricanaidd, ef yw'r mamal tir sych mwyaf yn Asia.
Fe'i ceir yn Bangladesh, India, Sri Lanka, Indotseina a rhannau o Nepal ac Indonesia (yn enwedig Borneo), Fiet Nam a Gwlad Thai. Fel anifail gwyllt, ystyrir ei fod mewn perygl, gyda rhwng 41,410 a 52,345 yn weddill. Gellir ei ddofi yn gymharol hawdd, a defnyddir cryn nifer ohonynt ar gyfer gwahanol dasgau mewn gwahanol rannau o Asia.
