Eleri Siôn

Oddi ar Wicipedia
Eleri Siôn
Ganwyd1971 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcanwr Edit this on Wikidata

Cyflwynwraig radio a theledu Cymreig yw Eleri Siôn (ganwyd Eleri Jones, 1971)[1][2]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Magwyd Siôn ar ffarm yn Neuadd Lwyd, Nyffryn Aeron[2] a mynychodd Ysgol Uwchradd Aberaeron.[1] Ei brawd yw'r actor ac awdur Meilyr Siôn. Roedd eu tad yn ffermwr a bu farw eu mam yn 46 mlwydd oed pan oedd Eleri yn 18 mlwydd oed.[3]

Dechreuodd ei gyrfa fel cantores ac fel cyflwynydd rhaglenni plant. Cymerodd saib o'i hastudiaethau am ddwy flynedd er mwyn cyflwyno rhaglen Chwaraeon i blant o'r enw Cracabant, cyn dychwelyd i astudio ar gyfer ei gradd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.[1][4]

Ymunodd â chriw Chwaraeon BBC Radio Cymru ym 1995, gan ddod yn y ferch cyntaf i ohebu ar rygbi yn y Gymraeg. Chwareodd rygbi dros glybiau Llanbedr Pont Steffan a Phrifysgol Caerdydd, lle fuodd hi'n gapten am flwyddyn, cyn rhoi'r gorau i chwarae oherwydd anafiadau.[1][4]

Wedi graddio bu'n gweithio fel Cynhyrchydd gyda chwmni teledu Apollo, ar raglenni megis Noc Noc, Cân i Gymru a Dudley. Dychwelodd at fyd chwaraeon ym 1997 fel is-gynhyrchydd a chyflwynydd Y Clwb Rygbi. Cyflwynodd hefyd gyfres Saith bob Ochr Rygbi y Byd, Gemau'r Gwyddel, Pencampwriaeth pêl-rwyd y byd a phencampwriaeth roller-hockey y byd, cyn cyd-gyflwyno Camp Lawn gyda Dylan Ebenezer ar BBC Radio Cymru.[1][4]

Mae Siôn yn un o'r gohebwyr chwaraeon ar raglen newyddion Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru. Mae hefyd yn gwneud gwaith achlysurol gyda chwmni teledu Sky fel is-gynhyrchydd/gohebydd ar bencampwriaethau dartiau a pŵl y byd.[5] Cyflwynodd Siôn nifer o raglenni ar S4C, gan gynnwys y rhaglen dalent Wawffactor, ac yn cyflwyno o lwyfan Pafiliwn Eisteddfod yr Urdd, a chyd-gyflwyno cyfresi Y Briodas Fawr gyda Rhodri Owen.[1]

Mae hefyd yn rhan o'r banel ar sioe gêm Jonathan Jonathan Davies ar S4C ac wedi cyflwyno rhaglen sgwrs ei hun sef Cadair Fawr Eleri Sion.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5  Oriel yr Enwogion: Eleri Sion. BBC Lleol i Mi: Canolbarth Cymru.
  2. 2.0 2.1  Wales's top 50 single women. Wales on Sunday (2004-04-25).
  3. Cystadlu teuluol , BBC Cymru Fyw, 13 Medi 2017.
  4. 4.0 4.1 4.2  Eleri Siôn. BBC Radio Cymru.
  5.  Eleri Sion. ukgameshows.com.
  6.  Cadair Fawr Eleri Sion. ukgameshows.com.