Eleri Llwyd

Oddi ar Wicipedia
Eleri Llwyd
Ganwyd1950s Edit this on Wikidata
Man preswylLlanuwchllyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethathro, canwr Edit this on Wikidata
TadHuw Lloyd Edwards Edit this on Wikidata
PriodElfyn Llwyd Edit this on Wikidata

Mae Eleri Llwyd (ganwyd tua 1951) yn gantores boblogaidd Gymraeg, a fu'n fwyaf toreithiog yn y 1970au.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd Eleri yn ferch i'r dramodydd Huw Lloyd Edwards. Cyfarfu a'i gŵr, Elfyn Llwyd pan oedd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth a priododd y ddau ar 27 Gorffennaf 1974.[1] Mae ganddynt ddau blentyn, Catrin Mara a Rhodri Llwyd.[2] Mae Catrin Mara yn actores a bu'n actio yn y gyfres Pobol y Cwm.

Cymhwysodd fel athrawes a cyn ymddeol roedd yn athrawes Saesneg yn Ysgol y Berwyn, Y Bala.[3]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Rhyddhaodd Eleri Llwyd ei sengl cyntaf, "Merch fel Fi" ar label Sain yn 1971[4] a'r un flwyddyn enillodd gystadleuaeth Cân i Gymru gyda chân boblogaidd Dewi 'Pws' Morris, "Nwy yn y Nen".

Bu'n aelod o'r grwpiau 'Y Nhw' ac 'Y Chwyldro' ond fel cantores unigol y mae'n fwyaf adnabyddus. Yn 1977 rhyddhaodd ei record hir, Am heddiw mae 'nghân. Disgrifiodd y canwr Gruff Rhys ei harddull fel 'prog gwerin-opera-disgo'. Ail-ryddhawyd yr albwm gan Sain yn Awst 2018.[5] Mae copïau gwreiddiol o'r albwm yn gwerthu am dros £100.[6]

Yn ogystal â "Nwy yn y Nen" cân adnabyddus arall a ganwyd gan Eleri Llwyd oedd "O Gymru" gan Rhys Jones, sydd, hefyd yn cael ei chanu gan gorau.[7] Cafwyd fersiwn gyfoes o'r gân, gyda llais Eleri Llwyd arni, gan Gai Toms.

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Elfyn Llwyd. BBC News (2001).
  2. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/35710208
  3.  Cyfweliad Penblwydd Eleri Llwyd (25 Mai 2011).
  4. https://www.discogs.com/Eleri-Llwyd-Eleri-Llwyd/release/3363077
  5. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-02-21. Cyrchwyd 2018-12-21.
  6. https://www.roughtrade.com/gb/music/eleri-llwyd-am-heddiw-mae-nghan[dolen marw]
  7. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-23. Cyrchwyd 2018-12-21.