Elen ferch Llywelyn

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Elen ferch Llywelyn Fawr)
Elen ferch Llywelyn
Ganwyd1218, 1207 Edit this on Wikidata
Bu farw6 Rhagfyr 1253 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
TadLlywelyn Fawr Edit this on Wikidata
Mamy Dywysoges Siwan Edit this on Wikidata
PriodJohn de Scotia, Iarll Huntingdon, Robert de Quincy Edit this on Wikidata
PlantQ61963721, Joan de Quincy, Hawise de Quincy Edit this on Wikidata
LlinachLlinach Aberffraw Edit this on Wikidata

Merch Llywelyn Fawr, Tywysog Cymru, oedd Elen ferch Llywelyn (tua 12061253). Nid oes sicrwydd hollol, ond credir mai Siwan, gwraig Llywelyn a merch John, brenin Lloegr, oedd ei mam. Cyfunai felly waed brenhinoedd a thywysogion Gwynedd, sef llinach Aberffraw, a llinach y Plantageniaid ynddi. Cofnodir ei henw mewn dogfennau Lladin fel Elena a Helen.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Cymharol ychydig a wyddys amdani. Mae'r cofnod cynharaf, sy'n dyddio o 1221, yn ymwneud ag achos cyfreithiol gan Ystrwyth (Instructus), un o glercod Llywelyn, i amddiffyn hawl Elen ar ystâd o dir yn Wellington, Swydd Amwythig.[1]

Priododd Elen John de Scotia, Iarll Caer tua 1222.[2] Gan fod Iarllaeth Caer yn sefyll rhwng Gwynedd a theyrnas Lloegr roedd hyn yn symudiad pwysig. Un o dystion y cytundeb briodas ffurfiol oedd Ednyfed Fychan, distain Gwynedd.[3] Ni fu ganddynt blant, a bu ef farw yn ddeg ar hugain oed ym 1237.

Ail-briododd Elen a Syr Robert de Quincy, mab Iarll Caerwynt yn 1237.[4] Cawsont ferch, Hawise.

Yn y cofnodion Albanaidd, ceir cofnod am "Helen" ferch "Llywelyn o Gymru" a briododd y Mormaer Maol Choluim II, Iarll Fife, ac wedi ei farwolaeth ef a ail-briododd a Domhnall I, Iarll Mar. Fodd bynnag, ymddengys nad Elen ferch Llywelyn oedd hon, oherwydd ni fu Maol Chaluim II farw tan 1266, tra mae cofnod o farwolaeth Elen ym 1253 (cyn 24 Hydref).[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. David Stephenson, The Governance of Gwynedd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1984), tud. 225.
  2. David Stephenson, The Governance of Gwynedd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1984), tud. xx.
  3. The Governance of Gwynedd, tud. 207.
  4. 4.0 4.1 [1]