Electroffil

Oddi ar Wicipedia

Mewn cemeg, electroffil yw ïon neu foleciwl sy'n adweithio drwy dderbyn pâr o electronau wrth niwcleoffil. Mae gan y rhan fwyaf o electroffiliau wefr bositif, ond mae rhai moleciwlau niwtral heb yr wythawd o electronau yn ymddwyn fel electroffiliau hefyd. Gan fod electroffiliau yn derbyn pâr o electronau, asidau Lewis ydynt.

Electroffiliau mewn cemeg organig[golygu | golygu cod]

Adiad electroffilig[golygu | golygu cod]

Gallant ymosod ar fondiau pi mewn alcenau fel y dengys y mecanwaith canlynol:

ElectrophilicAdditionmechanism.svg
  1. Mae electroffil X+ yn derbyn pâr o electronau wrth y bond pi ac yn ffurfio bond gydag un o'r atomau carbon. Rhyngfoleciwl positif o'r enw carbocation sy'n cael eu ffurfio o ganlyniad i'r cam cyntaf.
  2. Yna mae niwcleoffil Y- yn ffurfio bond gyda'r carbon sydd wedi'i wefru'n bositif drwy gyfrannu pâr o electronau.

Amnewid electroffilig[golygu | golygu cod]

Gallant gyfranogi mewn adweithiau amnewid hefyd. Er enghraifft yn yr adwaith canlynol mae electroffil A+ yn ymosod ar electronau dadleoledig bensen:

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Niwcleoffil