El Lissitzky

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
El Lissitzky
El lissitzky self portrait 1914.jpg
Hunanbortread, 1914
Byw 23 Tachwedd, 1890 – 30 Rhagfyr, 1941
Cenedligrwydd Ymerodraeth Rwsia, Undeb Sofietaidd
Mudiad Suprematism, Lluniadaeth (Constructivism)
Gwaith enwocaf Curwch y Gwynion gyda'r Lletem Goch,

Roedd Lazar Markovich Lissitzky (Rwsieg: Ла́зарь Ма́ркович Лиси́цкий), (23 Tachwedd 189030 Rhagfyr 1941), El Lissitzky (Rwsieg: Эль Лиси́цкий) yn ffotograffydd, teipograffwr, dylunydd a phensaer Rwsiaidd ac yn ffigwr pwysig mewn celfyddyd avant-garde Rwsia.

Gwaith[golygu]

Fe ddatblygodd Suprematism gyda Kazimir Malevich ac fe ddyluniodd nifer fawr o bosteri propaganda ac arddangosfeydd ar gyfer yr Undeb Sofietaidd. Roedd ei waith yn ddylanwad mawr ar y Bauhaus a'r mudiad celfyddydol lluniadaethol (constructivist) a dylunio graffig yr 20fed ganrif yn gyffredinol. Ymhlith enwau mawr a fu'n cyd-weithio oedd yr arlunwyr Marc Chagall, Kurt Schwitters, Wassily Kandinsky, László Moholy-Nagy, Theo van Doesburg, Alexander Rodchenko a'r bardd Vladimir Mayakovsky.

Fe gredai Lissitzky fod celfyddyd yn gallu newid a gwella bywyd, fel y gyhoeddodd yn "das zielbewußte Schaffen" (creu pwrpasol) [1].

Hanes[golygu]

O dras Iddewig, fe ddechreuodd ei yrfa yn darlunio llyfrau plant Iddew-Almaeneg (Yidish), fel rhan o ymdrechion i hyrwyddo diwylliant Iddewig yn Rwsia, gwlad oedd wedi dioddef hanes o wrth-Semitiaeth ond oedd newydd gael gwared â chyfreithiau yn erbyn Iddewon.

Fe ddechreuodd Lissitzky ddysgu fel athro celf yn 15 oed ac fe barodd yn athro hyd ei oes, yn dysgu mewn amryw o ysgolion a cholegau celf a swyddi. Gweithiodd gyda Malevich yn arwain y grŵp celfyddydol suprematist UNOVIS, a datblygodd steil suprematist ei hun, sef Proun.

Yn dilyn Chwyldro Rwsia cymerodd swydd yn 1921 fel llysgennad diwylliannol i Weriniaeth Weimar, Yr Almaen, yn gweithio gyda'r mudiadau Bauhaus a De Stijl.

Dychwelodd i'r Undeb Sofietaidd a fu'n arloeswr ym maes dylunio graffig yn torri tiroedd newydd mewn teipograffiaeth, photomontage a dylunio arddangosfeydd gan ddenu edmygedd mawr trwy'r byd celf rhyngwladol. Hyd yn oed ar ei wely angau yn 1941 fe gynlluniodd boster popaganda Sofietaidd yn annog gweithwyr i adeiladu rhagor o danciau yn y rhyfel yn erbyn Natsïaeth.[2] '

Er i lywodraeth Stalin wahardd gwaith haniaethol ac hyd yn oed erlid llawer o'r arlunwyr haniaethol fe lwyddodd El Lissitzky i gadw ar ochr iawn y gyfundrefn [3].

Y Lletem Goch[golygu]

El Lissitzky, Curwch y Gwynion gyda'r Lletem Goch 1919

Un o bosteri enwocaf Lissitzky yw Curwch y Gwynion gyda'r Lletem Goch (Клином красным бей белых!), 1919, poster propaganda comiwnyddol sydd yn defnyddio elfennau a syniadaeth suprematism. Mae'r cynllun yn cyfleu'i neges yn bennaf gyda ffurfiau haniaethol yn hytrach na geiriau gan roedd lefel uchel o anllythrennedd ymhlith pobl yr Undeb Sofietaidd ar y pryd.

Yn y poster mae'r siâp miniog coch yn cynrychioli'r lluoedd 'cochion' Bolsiefic a oedd yn ymladd rhyfel sifil yn erbyn y lluoedd 'gwynion' brenhinol. Mae'r siâp coch caled yn torri mewn a thyllu trwy'r siâp gwyn crwn i gyfleu ymosodiad a buddugoliaeth y cochion.[4]

Oriel[golygu]

Nodiadau[golygu]

  1. A Dictionary of Architecture and Landscape Architecture (Oxford Paperback Reference), James Stevens Curl (May 1, 2007)
  2. Self-Portrait: Constructor. Victoria & Albert Museum, 2013. Retrieved 8 July 2013.
  3. Tupitsyn
  4. George Heard Hamilton. Painting and sculpture in Europe, 1880-1940. p. 317

Cyfeiriadau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Wikiquote
Mae gan Wikiquote gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i:
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:

Rhestr catalog arwerthiant Swann Galleries yn cynnwys gwaith El Lissitzky.