Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2003
Oddi ar Wicipedia
| Lleoliad | Fferm Mathrafal, Meifod, Powys |
|---|---|
| Cost cynnal | 2.5 miliwn[1] |
| Nifer yr ymwelwyr | 155,390 |
| Enillydd y Goron | Mererid Hopwood |
| Enillydd y Gadair | Twm Morys |
| Gwobr Daniel Owen | Elfyn Pritchard |
| Y Fedal Ryddiaith | Cefin Roberts |
| Tlws Dysgwr y Flwyddyn | Mike Hughes, Carno |
| Tlws y Cerddor | Owain Llwyd |
Maes y Steddfod, ar dir fferm Mathrafal
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau ar safle Fferm Mathrafal ym Meifod, pentref bychan ym Maldwyn, Powys, yn 2003.
Gwobrau[golygu]
Enillwyd y Gadair gan Twm Morys am yr awdl 'Drysau'.
Enillydd y Goron oedd Mererid Hopwood am y bryddest 'Gwreiddiau'.
Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen oedd Elfyn Pritchard am Pan Ddaw'r Dydd.
Enillydd y Fedal Ryddiaith oedd Cefin Roberts am Brwydr y Bradwr.
Enillydd Tlws y Cerddor oedd Owain Llwyd.
Derbyniwyd Ioan Gruffudd yn aelod o'r Orsedd.