Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd a'r Cylch 2008
Oddi ar Wicipedia
| Lleoliad | Caeau Pontcanna |
|---|---|
| Cadeirydd | Huw Llywelyn Davies |
| Enillydd y Goron | Hywel Meilyr Griffiths |
| Enillydd y Gadair | Hilma Lloyd Edwards |
| Gwobr Daniel Owen | Ifan Morgan Jones |
| Y Fedal Ryddiaith | Mererid Hopwood |
| Tlws y Cerddor | Eilir Owen Griffiths |
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd a'r Cylch 2008 ar gaeau Pontcanna, Caerdydd. Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith oedd Huw Llywelyn Davies.
Gwnaethpwyd y goron a oedd yn rhodd gan Brifysgol Caerdydd gan Karen Williams. Dywedodd iddi seilio'r goron ar dyrau a bwâu adeiladau'r Brifysgol.
| Cystadleuaeth | Teitl y Darn | Ffugenw | Enw |
|---|---|---|---|
| Y Gadair | Tir Newydd | Eco | Hilma Lloyd Edwards |
| Y Goron | Stryd Pleser | Y Tynnwr Lluniau | Hywel Meilyr Griffiths |
| Y Fedal Ryddiaith | O Ran | Yn Dawel Bach | Mererid Hopwood |
| Gwobr Goffa Daniel Owen | Igam Ogam | Y Pobydd | Ifan Morgan Jones |
| Tlws y Cerddor | Ydi? A? Fo? | 666 | Eilir Owen Griffiths |