Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010
Logo Eisteddfod 2010.gif
Lleoliad Y Gweithfeydd, Glyn Ebwy, Blaenau Gwent. NP13
Cynhaliwyd 31 Gorffennaf - 7 Awst 2010
Archdderwydd T. James Jones
Nifer yr ymwelwyr 136,933 [1]
Enillydd y Goron Glenys Mair Glyn Roberts
Enillydd y Gadair Tudur Hallam
Gwobr Daniel Owen Grace Roberts
Y Fedal Ryddiaith Jerry Hunter
Tlws y Cerddor Christopher Painter
Gwefan www.eisteddfod.org
Y Lle Celf, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010.
Cydweithiodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gyda'r Eisteddfod er mwyn creu rhaglen gigs Maes B[2]

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010 yn Y Gweithfeydd yn nhref Glyn Ebwy, Blaenau Gwent rhwng 31 Gorffennaf a 7 Awst 2010.

Gŵyl y Cyhoeddi[golygu]

Cyhoeddwyd yr Eisteddfod yn swyddogol yng Nglyn Ebwy ar ddydd Sadwrn, 27 Mehefin 2009. Gorymdeithiodd tua 1,500 o bobl drwy'r dref, a chafwyd y Seremoni Gyhoeddi wrth ymyl Cerrig yr Orsedd.[3] Yn ôl yr Eisteddfod Genedlaethol, dyma'r nifer mwyaf o bobl a chymdeithasau i wneud cais ar gyfer bod yn rhan o Orymdaith y Cyhoeddi ers blynyddoedd,[3] sydd, yn ôl yr Eisteddfod, yn "...arwydd clir o gefnogaeth a brwdfrydedd sy'n bodoli ym Mlaenau Gwent ar gyfer cynnal y brifwyl yno yn ystod haf 2010."[3] Cafwyd diwrnod o weithgareddau amrywiol i blant lleol a phobl o bob oed yn ogystal.[4]

Fe ddywedodd y Cynghorydd Des Hillman, Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent, "Rydym i gyd yn falch iawn bod yr Eisteddfod yn dod i'n hardal ni ymhen y flwyddyn, ac wrth gynnal y seremoni a chyhoeddi'r Testunau, mae gwaith caled a chydweithrediad pawb yn yr ardal wedi talu'i ffordd. Gobeithio y cawn ddiwrnod i'w gofio ddydd Sadwrn."[3]

Er gwaethaf brwdfrydedd Des Hillman, roedd Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth, yn poeni y byddai'n her fawr i'r Eisteddfod fynd i'r ardal; "Mae'n ardal â llai o draddodiad ond mae 'na ysgolion yn y fro ... fe fydd rhaid i'r Eisteddfod addasu ac fe fydd yn eisteddfod wahanol."[5]

Y safle[golygu]

Crëwyd ac adnewyddwyd safle maes yr Eisteddfod yn arbennig ar ei chyfer, a datblygwyd 185 erw ar ei chyfer.[5] Yn y dyfodol, fe ddefnyddir yr holl safle ar gyfer 700 o dai, addysg ar gyfer disgyblion 3 - 16 oed, canolfannau hamdden a chelfyddydau, a busnes.[5][6]

Ariannu a niferoedd ymwelwyr[golygu]

Derbyniodd yr Eisteddfod £300,000 gan Raglen Adfywio Blaenau'r Cymoedd i'w galluogi i ymweld ag ardal Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd er mwyn cynnal yr Eisteddfod yno.[7] Derbyniodd hefyd grant o £500,000 gan y Llywodraeth, a chlustnoswyd tua £200,000 at unrhyw golledion; defnyddiwyd tua £300,000 at y cynllun "diwrnod am ddim" ar y Dydd Sul, a daeth tua 20,000 o bobl leol yno oherwydd hyn.[8] Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Elfed Roberts am y cynllun, "Many of the people who came here on Sunday had never been to the eisteddfod before. It is part of our remit to take the Welsh language and culture to all parts of Wales and Sunday proved we can do this successfully."[8]

Er roedd nifer yr ymwelwyr, sef 136,000, yn 27,000 llai na'r hyn a aeth i Eisteddfod y Bala y flwyddyn gynt, roedd y trefnwyr yn ffyddiog bod yr ŵyl wedi talu'i ffordd, ac wedi llwyddo i ddenu Eisteddfodwyr newydd di-Gymraeg o'r ardal.[9] Dywedodd eu bod wedi disgwyl incwm tocynnau o tua £550,000 a'u bod bron iawn wedi cyrraedd y targed.[9]

Lleoliad unigryw Y Lle Celf[golygu]

Cynhaliwyd Y Lle Celf mewn pydew dwfn hen waith dur.[10]

Prif gystadlaethau[golygu]

Y Coroni[golygu]

Glenys Mair Glyn Roberts oedd enillydd y goron.

Y Cadeirio[golygu]

Tudur Hallam oedd enillydd y gadair.

Fedal Ryddiaith[golygu]

Jerry Hunter oedd enillydd y fedal ryddiaith.

Tlws y Cerddor[golygu]

Christopher Painter oedd enillydd tlws y cerddor.

Gwobr Goffa Daniel Owen[golygu]

Grace Roberts oedd enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Adroddiad Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro
  2.  Yr Eisteddfod Genedlaethol. Maes B. Adalwyd ar 8 Awst 2010.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 BBC. BBC Arlein , Nodyn:DyddiadFformat.
  4.  Yr Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Cyhoeddi 2010. Adalwyd ar 8 Awst 2010.
  5. 5.0 5.1 5.2 BBC. Cynnal Prifwyl ar hen safle dur , Nodyn:DyddiadFformat.
  6. (Saesneg) Steve Dube (8 Awst 2010). WalesOnline - News - Wales News - Valleys Eisteddfod heralded a success by organisers. WalesOnline. Adalwyd ar 8 Awst 2010.
  7.  Yr Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Cannoedd yn dod ynghyd i Gyhoeddi Eisteddfod 2011. Adalwyd ar 24 Gorffennaf 2010.
  8. 8.0 8.1  BBC. BBC News - Cultural success for Ebbw Vale eisteddfod. Adalwyd ar 8 Awst 2010.
  9. 9.0 9.1  Eisteddfod 'hapus dros ben'. BBC (7 Awst 2010). Adalwyd ar 8 Awst 2010.
  10. Y Lle Celf Eisteddfod 2010 o wefan Gwefan swyddogol yr Eisteddfod; adalwyd 09Awst 2012

Gweler hefyd[golygu]

Dolen allanol[golygu]