Eisenstadt

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hen Neyadd y Ddinas, Eisenstadt

Eisenstadt (Hwngareg: Kismarton, Croateg: Željezno, Bafareg: Eisnstådt) yw prifddinas talaith Burgenland yn nwyrain Awstria. Mae'r boblogaeth tua 13,700.

Saif y ddinas i'r de-ddwyrain o'r Neusiedler See. Ymhlith y prif atyniadau i dwristiaid mae castell Slot Esterházy, hen gartref tywysogion Esterházy a'r cyfansoddwr Joseph Haydn. Yn y Blaue Haus y bu Joseph Haydn yn byw ac yn cyfansoddi o 1748 hyd 1778.