Eifion Williams
| Manylion Personol | ||
|---|---|---|
| Enw llawn | Eifion Wyn Williams | |
| Dyddiad geni |
Tachwedd 15, 1975 |
|
| Lle geni | Bangor, Gwynedd, |
|
| Gwybodaeth Clwb | ||
| Clwb Presennol | Jarrow Roofing | |
| Clybiau Hŷn | ||
| Blwyddyn |
Clwb |
Ymdd.* (Goliau) |
| 1995-97 1997-99 1999-2002 2002-2007 2007-2008 2008- |
Tref Caernarfon Tref Y Barri Torquay United Hartlepool United Wrecsam Jarrow Roofing |
75 (63) 60 (68) 107 (24) 208 (50) 13 (1) |
| Tîm Cenedlaethol | ||
| Cymru B | ||
|
1Ymddangosiadau a goliau mewn clybiau hŷn |
||
Pêl-droediwr ydi Eifion Wyn Williams (ganed 15 Tachwedd, 1975) sy'n chwarae yn safle canol cae/ymosodwr i dîm pêl-droed Jarrow Roofing yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr. Mae wedi cynrychioli Cymru ar lefel tim 'B'.
Fe gafodd Williams ei eni yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, a'i ddwyn i fyny yn Llangoed, Ynys Môn. Fe gychwynodd ei yrfa yn Wolverhampton Wanderers fel chwaraewr ieuenctid, ond cafodd ei ryddhau a ymunodd â chlwb Caernarfon yn y Cynghrair Cenedlaethol, a chychwyn gyrfa fel adeiladwr. Ond yng Nghaernarfon ddaru ei yrfa gychwyn mewn difrif oherwydd roedd yn sgoriwr goliau cyson iawn i'r clwb a chymryd sylw clybiau mwy at ei ddoniau.
Y Barri oedd y clwb cyntaf i wneud symudiad amdano, ac ar ddiwedd tymor 1997-98, symudodd yno am ffi o £25,000. Ymysg ei goliau, oedd un yn erbyn Dynamo Kiev o'r Wcrain yng Nghynghrair y Pencampwyr. Fe sgoriodd bedair gol i'r Barri mewn buddugoliaeth yn erbyn Conwy o 9-0.
Yn mis Mawrth 1999, gadawodd Tref y Barri i ymuno â chlwb Torquay United am £70,000, yna aeth ymalen i chwarae dros Hartlepool United, gan helpu'r clwb i ennill dyrchafiad yn nhymor 2001/02. Cafodd ei ryddhau gan Hartlepool ar ddiwedd dymor 2006-07, cyn ymuno â Wrecsam.