Ehud Olmert
Oddi ar Wicipedia
| Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. |
Prif Weinidog cyfredol Israel, yr 12fed i ddal y swydd, a chyn-arweinydd plaid Kadima yw Ehud Olmert (Hebraeg: אהוד אולמרט, IPA: [ɛˈhud ˈolmeʁt], ganed 30 Medi 1945). Dechreuodd Olmert weithredu fel Prif Weinidog dros dro ar 4 Ionawr 2006, ar ôl i Ariel Sharon ddioddef stôc yn ystod yr etholiadau. Eniullodd Kadima etholiad Mawrth 2006, gan alluogi Olmert i barhau yn ei swydd. Ar 4 Mai 2006, dyddiau ar ôl iddo ffurfio llywodraeth newydd, daeth yn Brif Weinidog swyddogol Israel.
Mae wedi cael ei gyhuddo o lygredd gwleidyddol.
Olmert a roddodd y "golau gwyrdd" i gychwyn y "rhyfel yn erbyn Llain Gaza yn Rhagfyr 2008. Yn ôl un ffynhonnell Israelaidd, cafodd cydsyniad George W. Bush i wneud hynny ond mae Dick Cheney wedi gwadu hynny.[1]