William Jones (Ehedydd Iâl)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Ehedydd Iâl)
Neidio i: llywio, chwilio
Tŷ gyda chofeb i'r emynydd, ger Llanarmon-yn-Iâl, Sir Ddinbych.
Y gofeb - llun manwl.

Bardd o'r 19eg ganrif oedd William Jones (181515 Chwefror 1899), a gyhoeddodd ei waith wrth yr enw barddol Ehedydd Iâl. Cafodd ei eni yn Cefn Deulin, Derwen, ger Rhuthun, Sir Ddinbych. Cafodd ei fedyddio ar 6 Awst 1815, yn blentyn i William a Catherine Jones. Bu'n briod ddwy waith: i Alice Evans (o Lerpwl) yn gyntaf ac yna i ferch o'r enw Hannah. Rhyngddynt, cafwyd 17 o blant. Mae ei fedd i'w gweld ym mynwent Llandegla. Yn 1906, claddwyd ei ail wraig yn yr un bedd. Ni wyddom lle claddwyd Alice, ei wraig gyntaf.

Bu'n byw yn Nhafarn-y-Gath (llun ar y dde) rhwng 1850 a'i farwolaeth yn 1899, gan weithio am y pymtheg mlynedd cyntaf fel tafarnwr anfoddog, cyn troi'r dafarn yn fferm.

Cynnwys

[golygu] Gyrfa

Brodor o Dderwen, Sir Ddinbych, oedd William Jones, yn felinydd a ffermwr wrth ei alwedigaeth. Daeth yn ffigwr adnabyddus yn yr eisteddfodau. Fe'i cofir fel emynydd, yn bennaf am yr emyn sy'n dechrau 'Er nad yw 'nghnawd ond gwellt'. Casglwyd ei gerddi ac emynau a'u cyhoeddi flwyddyn cyn ei farwolaeth yn y gyfrol Blodau Iâl (Wedi Eu Casglu a'u Trefnu gan y Parch. John Felix).

Ni chafodd ysgol, namyn ysgol y werin. Bu'n gweithio ar y ffermydd canolynol:

  • Llwyn Isaf - yn 9 oed
  • Plas-yn-Nerwen - am tua 7 mlynedd gyda John Davies, bardd lleol
  • Yr Hendre, Gwyddelwern - lle cafodd gopi o ramadeg Bardd Nantglyn; bu yma am saith neu wyth mlynedd
  • Rhydmarchogion, Llanelidan - at Mrs. Davies lle cyfansoddodd yr emyn enwog, 'Er nad yw 'nghnawd ond gwellt'.
  • Green Parc, Llandegla
  • Melin y Mwynglawdd - am dair blynedd
  • Tafarn-y-Gath - ryw filltir o bentref Llandegla. Aeth yno tua 1850 fel tafarnwr anfoddog a ffermwr am tuag wyth mlynedd. Yma y bu farw ar 15 Chwefror 1899.

[golygu] Yr emyn anfarwol

Y nefoedd uwch fy mhen
A dduodd fel y nos,
Heb haul na lleuad wen
Nac unrhyw seren dlos,
A llym gyfiawnder oddi fry
Yn saethu mellt o'r cwmwl du.
Er nad yw 'nghnawd ond gwellt
A'm hesgyrn ddim ond clai,
Mi ganaf yn y mellt,
Maddeuodd Duw fy mai:
Mae craig yr oesoedd dan fy nhraed,
A'r mellt yn diffodd yn y gwaed.

[golygu] Llyfryddiaeth

[golygu] Gwaith y bardd

  • Blodau Iâl, golygwyd gan John Felix (1898)

[golygu] Cefndir ac erthyglau

  • 'Adgofion Fy Mywyd' yn Blodau Iâl
  • Evan Isaac, Prif Emynwyr Cymru (1925)
  • 'Ehedydd Iâl trwy Lygaid Plentyn', gan E. Tegla Davies, yn Cymru (O.M.E.), 1918.
  • Bye–Gones, 1899, t. 45.

[golygu] Dolenni Allanol

Ymhlith yr engreifftiau o'r emyn wedi'i recordio y mae:

Dyma ychydig o wybodaeth am y bardd ei hun:

Cafwyd sawl cyfieithiad o'r emyn, gan gynnwys:

Gwefan y Christian Classics: [2]

StubWales.png Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau
Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer