Ehediad TWA 800

Oddi ar Wicipedia
Ehediad TWA 800
Enghraifft o'r canlynoldamwain awyrennu Edit this on Wikidata
Dyddiad17 Gorffennaf 1996 Edit this on Wikidata
Lladdwyd230 Edit this on Wikidata
LleoliadMoriches Inlet Edit this on Wikidata
Map
GweithredwrTrans World Airlines Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ailadeiladu malurion TWA 800 mewn awyrendy yn Calverton Executive Airpark.
Llwybr hedfan TWA 800. Mannau lle casglwyd gweddillion yr awyren yw'r petryalau lliw.[1]

Boeing 747-131 a ffrwydrodd a chrasiodd i Gefnfor yr Iwerydd ger East Moriches, Efrog Newydd, UDA, ar 17 Gorffennaf, 1996, am tua 20:31 EDT, 12 munud ar ôl ei esgynfa, gan ladd pob un o'r 230 o bobl arno oedd Ehediad Trans World Airlines 800 (TWA 800). Ehediad teithwyr rhyngwladol rheolaidd o Ddinas Efrog Newydd, Efrog Newydd, i Rufain, yr Eidal, gydag arhosiad ym Mharis, Ffrainc, oedd TWA 800.[2]

Tra yr oedd ymchwilwyr damweiniau o'r Bwrdd Diogelwch Cludiant Cenedlaethol (NTSB) yn teithio i fan y crash, lle cyrhaeddant trannoeth,[3] bu tybiaeth gynnar taw ymosodiad terfysgol oedd achos y cwymp.[4][5][6] O ganlyniad, dechreuodd y Biwro Ymchwilio Ffederal (FBI) ymchwiliad troseddol ar yr un pryd.[7] Un fis ar bymtheg yn ddiweddarach cyhoeddodd yr FBI nad oedd unrhyw dystiolaeth o weithred troseddol, a daeth y biwro ei ymchwiliad i ben.[8]

Daeth ymchwiliad yr NTSB i ben gyda'i adroddiad terfynol pedair mlynedd yn hwyrach ar 23 Awst 2000. Achos debygol y damwain, yn ôl casgliad yr adroddiad, oedd ffrwydrad tanwydd/anweddau fflamadwy mewn tanc tanwydd, ac, er ni ellir ei ddweud yn sicr, achos fwyaf tebygol y ffrwydrad oedd cylched byr.[9] O ganlyniad i'r crash, datblygwyd gofynion newydd ar gyfer awyrennau er mwyn osgoi ffrwydradau tanciau tanwydd yn y dyfodol.[10]

Mae nifer o ddamcaniaethau amgen ynghylch TWA 800 yn bodoli, a'r mwyaf boblogaidd o'r rhain yw'r syniad taw taflegryn gan derfysgwr neu Lynges yr Unol Daleithiau a achosodd yr awyren i gwympo a bod cynllwyn gan y llywodraeth i gadw hyn yn gyfrinach.[11][12] Daeth damcaniaeth y taflegryn i'r amlwg gan yr oedd llygad-dystion yn ardal Long Island yn honni gweld rhywbeth yn debyg i fflêr neu dân gwyllt esgyn i'r awyr a ffrwydro. Ond yn ôl yr Asiantaeth Gwybodaeth Ganolog (CIA) wnaethont weld dim ond yr awyren ar dân, nid cyrch taflegryn.[13]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. NTSB (2000), ffig.21, t.64.
  2. NTSB (2000), t. 1.
  3. NTSB (2000), t. 313.
  4.  What happened to Flight 800? (HTML). CNN (19 Gorffennaf, 1996). Adalwyd ar 14 Ebrill, 2010.
  5.  Knowlton, Brian (24 Gorffennaf, 1996). Investigators Focus Closely on Terrorism As Cause of Explosion: Chemicals Found on Jet Victims, U.S. Reports (HTML). The New York Times. Adalwyd ar 14 Ebrill, 2010.
  6.  Fedarko, Kevin et. al. (29 Gorffennaf, 1996). Terror on Flight 800: Who wishes us ill? (HTML). Time. Adalwyd ar 14 Ebrill, 2010.
  7.  Aviation and criminal experts probe TWA crash (HTML). CNN (19 Gorffennaf, 1996). Adalwyd ar 14 Ebrill, 2010.
  8.  FBI: No criminal evidence behind TWA 800 crash (HTML). CNN (18 Tachwedd, 1997). Adalwyd ar 14 Ebrill, 2010.
  9. NTSB (2000), t.xvi.
  10.  Lowery, Joan (16 Gorffennaf, 2008). Jet fuel-tank protection ordered (HTML). Seattle Post-Intelligencer. Adalwyd ar 14 Ebrill, 2010.
  11.  Revkin, Andrew C. (17 Medi, 1996). Conspiracy Theories Rife On Demise of Flight 800 (HTML). The New York Times. Adalwyd ar 14 Ebrill, 2010.
  12.  'Pierre Salinger Syndrome' and the TWA 800 conspiracies (HTML). CNN (17 Gorffennaf, 2006). Adalwyd ar 14 Ebrill, 2010.
  13.  Tauss, Randolph M. (14 Awst, 2008). The Crash of TWA Flight 800. Adalwyd ar 14 Ebrill, 2010.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

Bwrdd Diogelwch Cludiant Cenedlaethol (NTSB) (2000). Aircraft Accident Report: In-flight Breakup Over the Atlantic Ocean Trans World Airlines Flight 800 (PDF), NTSB/AAR-00/03. URL