Egni ïoneiddiad

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Egni ioneiddiad)

Term ydy egni ioneiddiad (EI) am atom neu foleciwl, sy'n cyfeirio at yr egni neu waith sydd angen i ddyrchafu'r electron i'r lefel egni uchaf o anfeidredd yn y cyflwr nwyol.

X + egni → X+ + e-

Mewn ffiseg, mae egni yn cael ei gynrychioli gan yr unedau foltiau electron (eV), sydd yn golygu'r egni gofynnol i ddyrchafu un electron o un atom neu foleciwl. Mewn cemeg, mae'r egni ïoneiddiad molar safonol yn cael ei ddefnyddio, sydd yn cynrychioli'r egni i ddyrchafu un môl o electronau o un môl o atomau neu foleciwlau. kJ/môl neu kcal/môl ydy'r unedau egni ïoneiddiad molar safonol.

Mae'r egni ioneiddiad nfed yn cyfeirio at yr egni i dynnu electron o rhywogaeth gyda gwefr o (n-1). Er enghraifft:

Egni ioneiddiad 1af
X → X+ + e-
Egni ioneiddiad 2il
X+ → X2+ + e-
Egni ioneiddiad 3ydd
X2+ → X3+ + e-

Mae 'na dueddiadau egnïon ïoneiddiad trwy'r tabl cyfnodol. Yn fras, mae'r egni ioneiddiad 1af yn cynyddu yn mynd o'r chwith i'r dde ar draws y tabl. Hefyd, yn mynd lawr y tabl mewn un grŵp, mae'r egni ioneiddiad 1af yn cynyddu.

Eginyn erthygl sydd uchod am gemeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.